Dean Saunders
Mae rheolwr Wrecsam wedi rhybuddio’r tîm fod ganddyn nhw gêm bwysig o’u blaenau heno wrth deithio i Southport.

Mae angen iddyn nhw wella’n gyflym ar ôl colli eu dwy gêm ddiwetha’ a llithro o’r lle blaena’ yn y Blue Square.

Fe gafodd Wrecsam eu chwalu yn hanner awr cynta’ eu colled o 3-0 yn erbyn York City ar y Cae Ras ddydd Sadwrn, ar ôl colli o 3-1 yn Barrow ynghynt.

‘Pethau positif’

Ond mae’r rheolwr, Dean Saunders, yn dweud fod pethau positif i’w cymryd o’r gêm, gan gynnwys y ffaith na wnaeth ei chwaraewyr ildio.

“Doedden ni ddim yn colli ein pennau pan oedden ni’n ennill a fyddwn ni ddim yn colli ein pennau’n awr,” meddai.

“Rhaid i ni roi hyn y tu cefn i ni a symud ymlaen.”

  • Fe fydd Casnewydd hefyd yn chwilio am newid wrth i Stockport ddod i’r De – maen nhw wedi colli pum gêm yn olynol ac yn bedwerydd o’r gwaelod.