Anthony Hudson
Wrth i’r pwysau gynyddu ar reolwr Casnewydd, Anthony Hudson, mae un o chwaraewyr mwyaf profiadol y tîm wedi cefnogi ei reolwr.
Collodd Casnewydd eu chweched gêm o’r tymor yn erbyn Braintree dros y penwythnos – canlyniad sy’n eu gadael yn bedwerydd o’r gwaelod yn Uwch Gynghrair y Blue Square.
Mae’r rheolwr ifanc yn dod dan bwysau cynyddol gan gefnogwyr y clwb, ond dywed y chwaraewr canol cae, Scott Rogers fod y chwaraewyr yn cefnogi’r rheolwr ac yn teimlo’n gyfrifol am y rhediad gwael.
Teimladau’r chwaraewyr
“Fe wnaethon ni drafod y peth fel chwaraewyr hŷn y garfan, a phenderfynu y dylai rhywun fel fi gysylltu â’r wasg er mwyn i’r cefnogwyr wybod sut mae’r chwaraewyr yn teimlo,” meddai Rogers wrth y South Wales Argus.
“R’yn ni gyd yn hoffi cogio nad ydan ni’n gwrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud yn y gemau neu ar y negesfyrddau, ond wrth gwrs ein bod ni, ac rydan ni’n gwybod beth sy’n cael ei ddweud am y giaffar.
“Dyna pam ein bod ni’n teimlo fod rhaid i ni ddweud rhywbeth.
“R’yn ni ar dân i lwyddo i Anthony gan ei fod yn gweithio’n anhygoel o galed a ddim yn haeddu’r hyn sy’n cael ei ddweud amdano.”
“Y chwaraewyr sy’n cymryd y cyfrifoldeb ar ddiwedd y dydd,” ychwanegodd Rogers.
Diffyg hyder
Yn ôl Scott Rogers, mae’r chwaraewyr yn dioddef o ddiffyg hyder, ac mae’n credu bod modd iddyn nhw fynd ar rediad da yn fuan.
“Mae’r sesiynau hyfforddi wedi bod yn wych yr wythnos yma, ac mae’r rheolwr am i ni wella trwy weithio’n galed.
“Fe ddylen ni fod wedi codi rhagor o bwyntiau ar ddechrau’r tymor, ac mae hynny wedi costio’n ddrud i ni gan fod ein hyder ni wedi dioddef.”
“Os allwn ni ddechrau rhediad diguro yna fyddwn ni’n dringo’r adran yn ddigon buan.”