Er bod tîm pêl-droed Caerdydd heb fuddugoliaeth o hyd yn Uwch Gynghrair Lloegr, mae’r rheolwr Neil Warnock wedi canmol “positifrwydd” ei dîm ar ôl eu gêm gyfartal ddi-sgôr yn Huddersfield ddydd Sadwrn.
Mae’r Adar Gleision wedi sicrhau dau bwynt yn eu tair gêm gyntaf, sy’n eu gadael yn bedwerydd ar ddeg yn y tabl.
Dywedodd y rheolwr fod ei dîm yn “edrych yn nerfus” yn ystod yr hanner cyntaf, gan gyfaddef ei fod “wedi siomi”.
Ond ychwanegodd: “Ro’n i’n credu ein bod ni wedi dechrau’r ail hanner yn well ar ôl gwneud sawl newid yn ystod hanner amser…
“Roedden ni’n bositif iawn ac fe ddylen ni fod wedi ennill y gêm; rhaid i ni fanteisio ar ein cyfleoedd.”
Ond fe fydd pryderon yn dilyn anaf i Nathaniel Mendez-Laing, oedd wedi gorfod gadael y cae ar wastad ei gefn ar ôl taro yn erbyn golwr Huddersfield, Ben Hamer.
Dywedodd Neil Warnock: “Dydyn ni ddim yn gwybod sut mae Nathaniel ar hyn o bryd. Bydd rhaid i ni ei asesu ar ôl i’r chwyddo leihau ymhen ychydig ddiwrnodau, ond doedd e ddim yn edrych yn dda.”