Y Bala 2 – 4 Llanelli

Mae colled gyntaf Y Bala o’r tymor yn golygu eu bod wedi llithro oddi ar frig Uwch Gynghrair Cymru.

Cyn y gêm, doedd y tîm cartref heb ildio gôl mewn 537 o funudau, ond fe lwyddodd Llanelli i sgorio pedair mewn 90 yn eu herbyn nhw ddoe.

Prif sgoriwr y gynghrair, Rhys Griffiths oedd y dyn a greodd y difrod mawr gan sgorio trithro i Lanelli.

Sgoriodd Griffiths ddwy yn y chwarter awr cyntaf, gan olygu fod yr ymwelwyr yn arwain 2-0 ar yr hanner.

Ymestynnodd Craig Moses y fantais gyda thrydedd i Lanelli wedi 62 munud ond llwyddodd Y Bala i daro nôl yn syth gyda gôl i Liam Loughlin ddwy funud yn ddiweddarach.

Seliwyd buddugoliaeth Llanelli gyda thrydedd Griffiths wedi 71 munud er i’r eilydd Rees Darlington rwydo ail i’r Bala yn y munudau olaf.


Y Seintiau Newydd 3 – 0 Lido Afan

Mae rhediad gwych Y Seintiau Newydd yn parhau, a bellach wedi eu codi i frig yr Uwch Gynghrair ar wahaniaeth goliau.

Mae’r Seintiau bellach wedi ennill pump gêm yn olynol gan ildio dim ond un gôl yn y broses.

Roedd Lido ddwy ar ei hôl hi erbyn yr hanner gyda goliau i Chris Seargeant a Craig Jones.

Bu’n rhaid i’r tîm cartef aros tan chwarter awr o’r diwedd cyn selio’r fuddugoliaeth – Alex Darlington a Scott Rusco yn cyfuno’n dda i greu pumed gôl y tymor i Matty Williams.





Tom Roberts o’r Seintiau’n siarad â Sgorio wedi’r gêm.

Tref Caerfyrddin 1 – 2 Dinas Bangor

Wedi dechrau sigledig i’r tymor a cholled siomedig yn erbyn Y Seintiau yr wythnos diwethaf, bydd Bangor yn falch o sicrhau’r tri phwynt yng Nghaerfyrddin.

Doedd hi ddim yn gêm hawdd i dîm Neville Powell ar Barc Richmond, yn enwedig ar ôl i Gaerfyrddin fynd ar y blaen bedair munud cyn yr hanner diolch i Nick Harrhy.

Daeth Bangor yn gyfartal wedi 11 munud o’r ail hanner diolch i Craig Garside a beniodd i’r rhwyd o groesiad Alan Bull.

Neil Thomas oedd yr arwr i Fangor gan sgorio’r gôl fuddugol gyda saith munud yn weddill.


Airbus UK Brychdyn 1 – 1 Tref Aberystwyth

Bydd yr un o’r ddau dîm yn hapus â’r gêm gyfartal ar Y Maes Awyr nos Wener wrth i Airbus ac Aberystwyth golli rhagor o dir ar y chwech uchaf.

Roedd Aber ar y blaen wedi llai na munud diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan Glenn Rule.

Er i’r ymwelwyr reoli gweddill yr hanner cyntaf, methon nhw â sgorio ail a thalu am hynny erbyn diwedd y gêm.

Mae Airbus yn hen lawiau ar sicrhau gemau cyfartal – dyma’i pumed o saith gêm eleni – ond bydd rhaid iddynt ddiolch i Steve Cann yn y gôl i Aber am y pwynt nos Wener.

Wrth i’r tîm cartref bwyso am gôl gyda 13 munud yn weddill, ceisiodd Cann ddriblo’r bêl heibio i ymosodwr Airbus Craig Whitfield gan fethu a gadael rhwyd wag i Mike Hayes sgorio iddi.



Port Talbot 0 – 0 Tref Prestatyn

Gêm ddi-sgôr oedd hi yn Stadiwm GenQuip bnawn ddoe, gan olygu bod y ddau dîm yn dal yn chweched a seithfed yn y tabl gyda’r un faint o bwyntiau.

Prif ddigwyddiad y prynhawn oedd penderfyniad y dyfarnwr, Huw Jones i newid ei benderfyniad gwreiddiol o gic o’r smotyn gan roi cic rydd tu allan i’r cwrt i Bort Talbot. Roedd hyn ar gyngor ei lumanwr wedi protestiadau gan chwaraewyr yr ymwelwyr.

Cafodd David Brooks a Chris Hartland gyfleoedd i’r tîm cartref yn yr ail hanner cyn i Hartland weld carden goch am drosedd yn erbyn Neil Gibson.

Er hynny daeth Brooks, Martin Rose a Sacha Walters oll yn agos i Bort Talbot cyn i Jon Fisher-Cooke a Steven Rogers fethu cyfleoedd i Brestatyn yn hwyr yn y gêm.