Roedd Castell Nedd ben ag ysgwyddau’n well na’r Drenewydd ar Barc Latham ddydd Sadwrn, gan ennill o bedair i ddim.
Cyn hyn roedd Castell Nedd wedi methu â sgorio nag ennill pwyntiau oddi-cartref eleni.
Newidiodd hynny yn ystod gêm fyw Sgorio ddydd Sadwrn, gyda dwy gôl yn yr hanner cyntaf i’r ymwelwyr cyn i ddwy arall ddilyn yn yr ail.
Cyfleoedd i’r ddau dîm
Roedd yn gêm weddol gyfartal am yr hanner awr cyntaf, gyda chyfleoedd da i’r ddau dîm.
Bu’n rhaid i ôl-geidwad y tîm cartref arbed yn dda o ymdrech Craig Hughes yn y funud gyntaf, tra bod Nick Rushton wedi methu cyfle gorau’r Drenewydd ar ôl i Lee Kendall fethu â chlirio.
Ond, amddiffyn Y Drenewydd oedd y prysuraf a doedd dim syndod gweld Castell Nedd yn mynd ar y blaen toc wedi’r hanner awr wrth i Matthew Rees sgorio o gic gornel.
Chwe munud cyn yr hanner roedd hi’n 2-0 wrth i Luke Bowen benio i’r rhwyd o groesiad da Luke Cummings.
Selio’r fuddugoliaeth
Wedi 11 munud o’r ail hanner roedd mantais Castell Nedd wedi’i ymestyn eto – Craig Hughes oedd y crëwr wedi symudiad da, gan dynnu’r bêl ar draws i Chris Jones rwydo.
Seliwyd y fuddugoliaeth gyda thair munud o’r gêm yn weddill wrth i’r eilydd Kerry Morgan ergydio’n wych o ymyl y cwrt i gornel ucha’r rhwyd – ei drydedd gôl o’r tymor.
Boyle yn bles
Wrth siarad â Sgorio ar ôl y gêm roedd rheolwr Castell Nedd yn falch o bwyntiau cyntaf ei dîm oddi-cartref.
“Ro’n i’n credu yn y bois ac maen nhw’n credu yn ei gilydd” meddai Terry Boyle.
“Mae’n braf cael sicrhau ein tri phwynt cyntaf o’r tymor oddi-cartref felly mae’n ddiwrnod hapus.”
“Mae disgwyliadau’n uchel yn y clwb. Y nod i ni ydy gweithio’n galed a sicrhau ein bod ni o gwmpas y brig tua diwedd y tymor.
Mae canlyniadau eraill yn golygu bod Castell Nedd yn aros yn y trydydd safle, er eu bod yn cau’r bwlch ar Y Seintiau Newydd a’r Bala ar y brig.
Gobaith i’r Drenewydd
Mae’n amser caled i’r Drenewydd, a ildiodd naw yn erbyn Llanelli yn y gêm ddiwethaf a sydd ar waelod y tabl.
Er hynny roedd Terry Boyle yn gweld gobaith i dîm Bernard Mcnally.
“Maen nhw’n dîm ifanc ac fe wnaethon nhw weithio’n galed iawn a chynnig gêm adloniadol i’r camerâu teledu” meddai rheolwr yr Eryrod.