Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Graham Potter wedi canmol gwytnwch ei dîm yn dilyn y fuddugoliaeth o 1-0 dros Preston North End yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Maen nhw wedi ennill eu dwy gêm gyntaf ar ôl gostwng o’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw ymdopi ag anaf i’w golwr Kristoffer Nordfeldt yn gynnar yn y gêm ar ôl colli nifer o chwaraewyr yn annisgwyl cyn i’r ffenest drosglwyddo gau ddiwedd yr wythnos.
A methodd Oli McBurnie o’r smotyn i roi ei dîm ar y blaen, ond roedd gôl gynghrair gyntaf Jay Fulton yn ddigon i sicrhau’r triphwynt.
Collon nhw’r amddiffynwyr canol Federico Fernandez a Jordi Amat, a’r chwaraewyr canol cae Jordan Ayew a Sam Clucas ar y diwrnod olaf un, sy’n eu gadael yn brin o chwaraewyr ar ôl methu ag arwyddo’r un chwaraewr cyn i’r ffenest gau.
‘Balch iawn’
Dywedodd Graham Potter: “Dw i’n falch iawn o’r chwaraewyr a’r cefnogwyr. Roedden nhw’n rhyfeddol.
“Mae pobol yn siarad o hyd am ba mor anodd yw’r Bencampwriaeth a dw i’n cytuno gyda nhw. Rhaid i chi fod yn wydn ac os nad ydych chi’n gwneud hynny, yna ry’ch chi’n farw mewn unrhyw gynghrair.
“Roedden ni’n wydn a phan gollon ni ein golwr, gallen ni fod wedi teimlo droson ni’n hunain. Wnaethon ni ddim, er ro’n i’n teimlo bod Preston yn haeddu pwynt.”
Colli cyfle
Daw’r fuddugoliaeth ar ddiwedd wythnos rwystredig i Graham Potter, wrth i’r clwb weld nifer sylweddol o chwaraewyr yn gadael heb fod fawr neb yn dod i mewn.
Daeth ymdrechion yr Elyrch i arwyddo Ryan Woods o Brentford i ben ar yr unfed awr ar ddeg, a hynny ar ôl i Sam Clucas adael am Stoke. Roedd yn ymddangos fel pe bai’r arian o werthu Sam Clucas yn mynd i gael ei ddefnyddio i brynu Ryan Woods.
Dangosodd y cefnogwyr eu hanfodlonrwydd gyda pherchnogion y clwb, Jason Levien a Steve Kaplan yn ystod y gêm, wrth i’r Elyrch wynebu’r realiti o orfod dibynnu ar ddenu chwaraewyr ar fenthyg tan fis Ionawr.
Ychwanegodd Graham Potter: “Dw i ddim eisiau cwyno am chwaraewyr doedden ni ddim wedi’u cael.
“Mae angen i fi ganolbwyntio ar y chwaraewyr sydd eisiau bod yma a chwarae i Abertawe.
“Dw i’n deall rhwystredigaeth y cefnogwyr a bod yn siom, ond mae’r clwb wedi gwario arian yn y gorffennol ac nid dyna’r ateb bob tro.
“Mae angen i chi farnu unrhyw ffenest drosglwyddo ar ddiwedd y tymor.”