Mae Morgannwg wedi codi i’r trydydd safle yn y Vitality Blast ar ôl curo Hampshire o wyth wiced yng Nghaerdydd – gan ennill pum gêm ugain pelawd yn olynol am y tro cyntaf erioed.
Tarodd y capten Colin Ingram 71 heb fod allan wrth i Forgannwg gyrraedd y nod o 152 mewn 15.5 o belawdau.
Sgoriodd Craig Meschede 32 wrth agor y batio, ar ôl cipio tair wiced gyda’r bêl am 21.
Cyfrannodd y batiwr ifanc o Gaerdydd, Kiran Carlson 31 at y sgôr heb fod allan mewn partneriaeth allweddol o 54 gyda’i gapten.
Cyfnod clatsio’r ymwelwyr
Ar ôl i Forgannwg alw’n gywir a’u gwahodd i fatio, dechreuodd Swydd Hampshire yn gadarn, gan sgorio 13 rhediad oddi ar yr ail belawd, wrth i James Vince glatsio Ruaidhri Smith am chwech a phedwar.
Ymunodd Rilee Rossouw yn yr hwyl yn y drydedd, gan daro Michael Hogan am ddau chwech a phedwar oddi ar belenni olynol, a’r sgôr yn 33 heb golli wiced.
Roedd yr ymwelwyr wedi cyrraedd 50 heb golli wiced cyn diwedd y bedwaredd, wrth i Timm van der Gugten gael ei gosbi gan y ddau fatiwr. Tarodd James Vince chwech a phedwar, ac roedd chwech arall i Rilee Rossouw.
Un wiced ar ôl y llall
Cafodd James Vince ei ddal gan David Lloyd oddi ar fowlio Michael Hogan am 30 yn y bumed pelawd, a’r ymwelwyr yn 58 am un. Tarodd Rilee Rossouw chwech cyn diwedd y belawd a’i dîm yn 68 am un erbyn diwedd y cyfnod clatsio.
Cyrhaeddodd Rilee Rossouw ei hanner canred oddi ar 22 o belenni yn yr wythfed pelawd ar ôl dau bedwar, ond fe gollodd ei wiced am 50 pan gafodd ei ddal gan Kiran Carlson yn mynd am ergyd fawr, a’r sgôr yn 90 am ddwy.
Cwympodd y drydedd wiced yn fuan wedyn a’r sgôr yn 94, pan yrrodd Sam Northeast yn syth i lawr corn gwddf Michael Hogan oddi ar fowlio Andrew Salter. Erbyn hynny, roedd y Saeson wedi colli tair wiced am 13 rhediad o fewn tair pelawd, ac fe orffennodd y bowliwr gyda dwy wiced am 16.
Collodd yr ymwelwyr eu pumed wiced o fewn dim o dro pan gafodd Joe Weatherley ei stympio gan Chris Cooke oddi ar fowlio Craig Meschede am un, a’r sgôr yn 107 yn y drydedd belawd ar ddeg.
Roedden nhw’n 117 am chwech pan gafodd Gareth Berg ei ddal yn gampus ar yr ochr agored gan Michael Hogan oddi ar fowlio Craig Meschede am bedwar yn y bymthegfed pelawd.
Ergyd i’r ffin – o’r diwedd
Ar ôl cyfnod hesb heb ergydion i’r ffin, fe ddaeth y gyntaf ers naw pelawd yn yr ail belawd ar bymtheg, pan darodd Chris Wood bedwar oddi ar Craig Meschede.
Ond fe gipiodd y bowliwr wiced Gareth Berg, a gafodd ei ddal ar y ffin gan Aneurin Donald am 20, a’r sgôr yn 131 am saith. Gorffennodd y bowliwr gyda thair wiced am 21.
Cafodd Chris Wood ei ddal am 10 gan Ruaidhri Smith i lawr ochr y goes wrth sgubo oddi ar fowlio Michael Hogan, a’r sgôr yn 144 am wyth yn y belawd olaf ond un, ac fe wnaethon nhw orffen ar 151 am wyth.
Ymateb Morgannwg
Wrth gwrso 152 i ennill, roedd Morgannwg yn benderfynol o ymosod o’r dechrau’n deg, ond yn ddigon pwyllog ar yr un pryd.
Ar ôl i Craig Meschede glatsio cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, Dale Steyn am bedwar yn yr ail belawd, bowliodd y bowliwr fownsar ac ildio pedwar heibiad. Ond cafodd Aneurin Donald ei redeg allan mewn modd rhyfedd, a Morgannwg yn 19 am un ar ddiwedd yr ail belawd.
Tarodd Colin Ingram ergyd fwya’r noson am chwech ar ddechrau’r drydedd belawd, wrth daro Chris Wood i ganol prif eisteddle’r cae. Ac fe gafodd Gareth Berg yr un driniaeth ganddo, wrth gael ei daro am chwech i’r afon yn y bumed belawd cyn cael ei dorri am bedwar.
Wrth i Ryan Stevenson fowlio pelawd ola’r cyfnod clatsio, cafodd ei daro am chwech i lawr ochr y goes gan Colin Ingram cyn cael ei dorri am bedwar a’i dynnu am chwech, a’r sgôr yn 70 am un ar ddiwedd y cyfnod clatsio.
Buddugoliaeth o fewn cyrraedd
Wrth i Craig Meschede a Colin Ingram fanteisio ar fowlio digon di-nod yr ymwelwyr, roedden nhw eisoes yn edrych yn gyfforddus pan darodd Craig Meschede chwech oddi ar fowlio’r troellwr Mujeeb Ur Rahman yn y nawfed pelawd.
Erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, roedd Morgannwg yn 101 am un, o’i gymharu â 98 am dair Hampshire ar yr un cyfnod, ac roedd Colin Igram newydd gyrraedd ei hanner canred oddi ar 26 o belenni, ar ôl taro pedwar chwech a thri phedwar.
Does neb wedi taro mwy o ergydion am chwech mewn gemau ugain pelawd ers 2016 na’r capten.
Ond collodd Morgannwg eu hail wiced yn y degfed pelawd, wrth i Craig Meschede gael ei ddal gan y wicedwr Tom Alsop oddi ar fowlio Dale Steyn am 32, a’r Cymry’n 101 am ddwy. Roedd ei bartneriaeth gyda Colin Ingram yn werth 82.
Wrth i Forgannwg nesáu at y nod, roedd yr ergydion i’r ffin yn dal i ddod yn gyson ac fe dynnodd Kiran Carlson chwech enfawr i’r pafiliwn, a thorri pedwar oddi ar fowlio Ryan Stevenson, a Morgannwg wedi cyrraedd y nod yn gyfforddus yn y pen draw.