Mae is-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, Billy Reid, wedi dweud wrth golwg360 y gallai’r tîm fod o dan fwy o bwysau i ennill gemau ar ôl ffenest drosglwyddo siomedig ar y cyfan.
Wrth i’r ffenest drosglwyddo gau’n glep am 5 o’r gloch brynhawn dydd Iau, roedd yr Elyrch eisoes yn paratoi am fywyd yn y Bencampwriaeth heb nifer o’r hoelion wyth dros y tymhorau diwethaf.
Ac fe wynebodd yr is-reolwr y wasg yn sgil salwch y rheolwr Graham Potter, a ddywedodd pan gafodd ei benodi mai fe, a neb arall, fyddai’n cael y gair olaf ar drosglwyddiadau.
Llenwi bylchau
Mae cau’r ffenest drosglwyddo bellach yn golygu y bydd rhaid i Abertawe droi at chwaraewyr sydd ar gael ar fenthyg er mwyn cryfhau ac ymestyn yr adnoddau sydd ganddyn nhw.
Dydy hynny, meddai Billy Reid, ddim yn ddelfrydol.
“Fe allech chi ddweud hynny,” oedd ei ymateb wrth i golwg360 ei holi a oedd colli cynifer o chwaraewr a denu cyn lleied yn eu lle yn rhoi mwy o bwysau arno fe a’r rheolwr Graham Potter i ennill gemau er mwyn tawelu ofnau’r cefnogwyr.
“Mae ennill gemau’n beth mawr. Pan ddaeth Graham a’r tîm rheoli yma gyntaf, y peth cyntaf ddywedon ni oedd fod rhaid i’r chwaraewyr ymateb i ni a sylweddoli bod syniad go dda gyda ni am yr hyn ry’n ni’n ei wneud.
“Mae ennill gemau pêl-droed a’r modd ry’n ni’n eu chwarae nhw’n bwysig, a gobeithio y gall y chwaraewyr ymateb i hynny. Wrth symud ymlaen, y peth pwysig yw defnyddio’r garfan gorau gallwn ni.”
Amddiffynwyr canol
Y mwyaf o’r chwaraewyr sydd wedi gadael yw’r amddiffynnwr canol, Federico Fernandez, sydd wedi ymuno â Newcastle.
Mae trosglwyddiad Jordi Amat i Rayo Vallecano yn golygu mai Mike van der Hoorn yw’r unig amddiffynnwr canol profiadol yn weddill, ar ôl i Alfie Mawson hefyd symud at West Ham.
Ychwanegwch at hynny ymadawiad y golwr Lukasz Fabianski dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’r Elyrch wedi colli tri chwaraewr allweddol yng nghefn y cae.
Ond fe lwyddon nhw i ddenu Declan John o Rangers, ac mae’n debygol y bydd e’n dechrau’r gêm yn erbyn Preston yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.
Canol a blaen y cae
Yr un yw’r hanes, i raddau, yng nghanol y cae wrth i Sam Clucas fynd i Stoke a Jordan Ayew ar fenthyg i Crystal Palace.
Ymadawiad posib Sam Clucas oedd prif destun trafod yr wythnos hon yn Fairwood ac fe fydd methu ag arwyddo Ryan Woods o Brentford yn ei le yn destun siom i lawer.
A fydd Ryan Woods yn ymuno ar fenthyg dros y dyddiau neu’r wythnosau nesaf sy’n gwestiwn arall.
Denu chwaraewyr
Dydy hi ddim yn ddu i gyd ar Abertawe, ar ôl iddyn nhw lwyddo i ddenu pedwar chwaraewr newydd yn ystod y ffenest drosglwyddo.
Cafodd y cefnogwyr gip ar ddoniau Yan Dhanda, y chwaraewr canol cae dawnus, wrth iddo fe sgorio gyda’i gyffyrddiad cyntaf ar ôl dod i’r cae yn eilydd yn y fuddugoliaeth o 2-1 dros Sheffield Wednesday ddydd Sadwrn diwethaf.
Fe greodd Barrie McKay gryn argraff o ganol y cae hefyd, ac mae Bersant Celina a Joel Asoro i’w gweld yn ychwanegiadau da at y garfan.
Mae’r wythnosau a’r misoedd i ddod yn debygol o fod yn rhai ansicr i Abertawe, er iddyn nhw ddechrau’n dda yr wythnos ddiwethaf.
Ond un peth sy’n sicr. Os na fydd y canlyniadau’n parhau i ddod, fe fydd y cefnogwyr yn diflasu’n gyflym ac fe fydd amynedd y cefnogwyr â’r perchnogion Americanaidd, sydd wedi rhoi swm sylweddol o arian yn eu pocedi dros yr haf, yn rhedeg allan yn gyflym iawn – os nad yw hynny’n wir eisoes.