Hull 0–2 Caerydd
Mae Caerdydd un buddugoliaeth i ffwrdd o Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl trechu Hull yn Stadiwm KC yng ngêm olaf ond un y tymor yn y Bencampwriaeth.
Bydd yr Adar Gleision yn esgyn gyda thri phwynt gartref yn erbyn Reading ddydd Sul nesaf wedi i ddwy gôl Sean Morrison sicrhau’r fuddugoliaeth yn Hull.
Aeth yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen wedi ychydig dros hanner awr gyda pheniad Morrison o gic gornel Joe Ralls.
Caerdydd a oedd y tîm gorau wedi’r egwyl hefyd a bu rhaid i Allan McGregor fod ar ei orau yn y gôl i Hull i atal Callum Paterson, Kenneth Zohore a Morrison.
Ond cafodd Caerdydd a Morrison eu hail yn y diwedd, yr amddiffynnwr canol yn cwblhau gwrthymosodiad ddeg munud o’r diwedd.
Mae’r canlyniad yn rhoi Caerdydd yn ail gydag un gêm yn weddill, bwynt uwch ben Fulham yn y trydydd safle. Bydd canlyniad cystal â’r tîm o Lundain yn ddigon i dîm Neil Warnock felly ar Sul olaf y tymor.
.
Hull
Tîm: McGregor, Aina, Dawson, MacDonald (Mazuch 14’), Kingsley, Wilson, Henriksen, Meyler, Grosicki (Toral 73’), Keane (Bowen 66’), Campbell
Cardiau Melyn: Kingsley 3’, Henriksen 45’, Meyler 70’
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Bamba, Bennett, Peterson, Gunnarsson (Grujic 10’ (Bryson 45’)), Ralls, Mendez-Laing, Zohore (Madine 90’), Hoilett
Goliau: Morrison 32’, 80’
Cardiau Melyn: Grujic 30’, Ralls 60’
.
Torf: 17,441