Dreigiau 8–33 Scarlets
Sicrhaodd y Scarlets gêm gynderfynol gartef yn y Guinness Pro14 gyda buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn y Dreigiau yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.
Roedd angen pwynt bonws ar y Cymry i wneud yn siŵr eu bod yn gorffen uwch ben Caeredin yn yr ail safle yng nghyngres B, a dyna a gawsant diolch i dri chais cyflym ar ddechrau’r ail hanner.
Dechreuodd y Scarlets yn dda gyda Ryan Elias yn tirio’r cais cyntaf wedi sgarmes symudol yn y chweched munud.
Arafodd pethau wedi wedi hynny ac er i’r tîm o’r gorllewin barhau i reoli, pedwar pwynt yn unig a oedd ynddi wrth droi diolch i gic gosb Arwel Robson i’r Dreigiau.
Dechreuodd Bois y Sosban yr ail hanner yn gryf a hwy a oedd yn cael y gorau o’r frwydr yn y sgrym. Arweiniodd hynny at gerdyn melyn i brop y Dreigiau, Chris Coleman, a chais cosb i’r Scarlets.
Gyda’r Dreigiu i lawr i bedwar dyn ar ddeg, fe fanteisiodd y Scarlets yn llawn ar y gwagle ychwanegol gyda Tadgh Beirne yn croesi am ddau gais mewn cyfnod o chwe munud.
Gyda’r pwynt bonws holl bywsig yn ddiogel a’r Dreigiau yn ôl i bymtheg dyn, fe dynodd y Scarlets eu traed oddi ar y sbardun.
Ac yn wir, y Dreigiau a sgoriodd gais gorau’r gêm wrth i Jared Rosser blymio drosodd yn y gornel i gwblhau symudiad tîm da.
Roedd digon o amser ar ôl am bumed cais i’r Scarlets, un haeddiannol i Steff Evans diolch i ddyfalbarhad yr asgellwr.
Buddugoliaeth gyfforddus i Fois y Sosban felly; gêm gynderfynol iddynt hwy ond tymor siomedig arall i’r Dreigiau gyda dim ond dwy fuddugoliaeth yn unig.
.
Dreigiau
Cais: Jared Rosser 63’
Cic Gosb: Arwel Robson 23’
Cerdyn Melyn: Chris Coleman 47’
.
Scarlets
Ceisiau: Ryan Elias 6’, Cais Cosb 47’, Tadgh Beirne 50, 56’, Steff Evans 76’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 7’, 56’, 76’