Aston Villa 1–0 Caerdydd
Llithrodd Caerdydd allan o ddau uchaf y Bencampwriaeth wrth golli oddi cartref yn erbyn Aston Villa nos Fawrth.
Roedd gôl hwyr Jack Grealish yn ddigon i’r tîm cartref gipio’r tri phwynt ar Barc Villa ac mae’r canlyniad hwnnw ynghyd â buddugoliaeth Fulham yn erbyn Reading yn golygu bod yr Adar Gleision yn llithro i’r trydydd safle yn y tabl.
Villa a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant trwy gydol y gêm ond cafodd Caerdydd eu cyfleoedd hwythau i sgorio.
Llusgodd Nathaniel Mendez-Laing ergyd heibio’r postyn cyn i Kenneth Zohore gael ei atal ddwy waith, gan amddiffynnwr ar y llinell i ddechrau ac yna gan arbediad gwych Sam Johnstone yn y gôl.
Byddai gêm gyfartal wedi bod yn ganlyniad go lew i dîm Neil Warnock ond amddifadwyd hwy o hyd yn oed bwynt pan sgoriodd Grealish foli flasus o ugain llath bum munud o ddiwedd y naw deg.
Roedd un gôl yn ddigon i Fulham drechu Reading yn Craven Cottage hefyd ac mae’r tîm o Lundain yn neidio dros Gaerdydd i’r ail safle yn y tabl o ganlyniad. Yr unig gysur i’r Adar Gleision yw fod ganddynt un gêm wrth law.
.
Aston Villa
Tîm: Johnstone, El Mohamady, Chester, Jedinak, Tuanzebe (Bree 26’), Whelan, Snodgrass, Hourihane (Samba 88’), Grealish, Adomah (Kodjia 60’), Grabban
Gôl: Grealish 85’
Cardiau Melyn: Hourihane 20’, Snodgrass 45+2’, Johnstone 90+4’, Kodjia 90+6’
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Bamba, Bennett, Gunnarsson, Grujic, Mendez-Laing (Pilkington 68’), Zohore (Madine 68’), Hoilett (Ward 88’)
Cardiau Melyn: Paterson 37’, Gunnarsson 78’, Bennett 81’, Ward 89’, Peltier 90+5’
.
Torf: 32,560