Mae’r nofiwr rhyngwladol a gafodd ei gyhuddo o dreisio dynes funudau ar ôl iddi gael rhyw gyda’i ffrind, wedi cael ei ganfod yn ddieuog.
Fe gafodd Otto Putland, 24 oed, o Dinedar, ger Henffordd, ei gyhuddo o dreisio’r ddynes ar ôl noson mas ym mis Gorffennaf 2015.
Ac yn ôl y ddynes ei hun, fe ddaeth y nofiwr i’r ystafell ar ôl iddi gael rhyw cydsyniol gyda’i ffrind, sef y nofiwr Olympaidd, Ieuan Lloyd.
Ond ar ôl achos llys a barodd bum diwrnod, fe ddaeth y rheithgor i’r penderfyniad bod Otto Putland yn ddieuog.
Mewn datganiad, mae’r nofiwr, a gynrychiolodd Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014, wedi dweud bod y deunaw mis diwethaf wedi bod yn “ofnadwy” iddo, a’i fod yn ffodus o gael teulu a ffrindiau “cariadus a chefnogol”.
Fe gafodd Otto Putland ei arestio ym mis Tachwedd 2016, a hynny 16 mis ar ôl y digwyddiad.