Mae dau dîm o blith chwech isaf Uwch Gynghrair Cymru yn cwrdd ar Faes Tegid ddydd Sul yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru. Dyma’r tro cyntaf i’r Bala gynnal rownd gyn-derfynol.
Mae Aberystwyth a’r Drenewydd wedi cwrdd dair gwaith y tymor hwn gydag Aberystwyth yn ennill dwy a’r Drenewydd un. Ond y gêm hon fydd y gyntaf yn erbyn ei gilydd yng Nghwpan Cymru ers 1995/96, pan enillodd Aberystwyth yn y drydedd rownd.
Gyda’r ffefrynnau, Y Seintiau Newydd allan o’r gwpan, bydd y pedwar clwb sy’n weddill yn gobeithio ennill y gwpan.
Bron â mynd allan
“Rydan wrth ein boddau i fod mewn rownd gyn-derfynol arall, meddai rheolwr y Drenewydd, Chris Hughes, wrth Golwg360. “Ar un adeg yn erbyn Y Fflint yn y bedwaredd rownd, roedden ni bron â mynd allan, mi ddangosodd y tîm gymeriad wrth ennill ar giciau o’r smotyn ac ar ôl gem anodd yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Llandudno, rydan ni’n edrych ymlaen at yr her ddydd Sul.
“Heb os, rydan ni’n hyderus, ond mae Aberystwyth ar eu diwrnod yn gallu bod yn dîm da, rydan ni’n nabod ein gilydd yn reit dda. Mae’n gêm 50/50.”
Mae Chris Hughes, yn ôl rhai, wedi cyflawni gwyrthiau o ystyried bod prif sgoriwr y gynghrair, Jason Oswell ac amddiffynnwr o safon Shane Sutton wedi gadael y clwb yn yr haf.
“Roedd yn ergyd i golli’r ddau, a nifer eraill, roedd rhaid ailadeiladu. Roedd Jamie Reed wedi dod i mewn a sgorio goliau, ond cafodd o anaf a’i cadwodd o allan am weddill y tymor. Mae Ryan Sears, ar fenthyg o’r Amwythig, wedi gwneud yn dda i ni.
“Hefyd mae Callum Roberts, wedi ymuno â ni yn Ionawr o’r un clwb ond mae o allan o’r ornest oherwydd mae wedi cynrychioli’r Seintiau’r Newydd yn gynharach yn y gwpan.”
Chwaraewr cyson
Yn ddiweddar cafodd Craig Williams, ei ddewis yn garfan Cymru C yn erbyn Lloegr yn y Barri, fraint i Williams á’r clwb.
“Roedd yn braf i weld Craig yn y garfan , fraint iddo fo á’r clwb, hollol haeddiannol, mae wedi bod yn chwaraewr cyson i ni. Roeddwn yn falch iawn i weld y gêm yn cael ei chynnal, mae rhywbeth sy’n rhoi cyhoeddusrwydd i’r gynghrair mond yn beth da.” Ychwanegodd Hughes.
Rownd 3 – Drenewydd 2 – 0 Cegidfa
Rownd 4 – Fflint 2-2 Drenewydd, Drenewydd yn ennill 4-3 ar giciau o’r smotyn
Rownd yr wyth olaf – Llandudno 0-2 Drenewydd
Y sgôr ar yr hanner yw 1-0 i Aberystwyth diolch i gôl Declan Walker ar ôl 23 o funudau.