Newcastle 1–1 Abertawe
Mae Abertawe’n aros ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Newcastle ar Barc St. James brynhawn Sadwrn.
Gôl yr un a oedd hi yng ngogledd ddwyrain Lloegr gyda Jordan Ayew a Joselu yn sgorio o fewn ychydig funudau i’w gilydd yn yr ail hanner.
Cafodd y tîm cartref well cyfleoedd yn yr hanner cyntaf ond fe allai Abertawe fod wedi cael cic o’r smotyn pan darodd y bêl law Mohamed Diame yn y cwrt cosbi.
Aros yn ddi sgôr a wnaeth hi tan yr egwyl serch hynny ond roedd yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen ar yr awr diolch i beniad Ayew ar yr ail gynnig.
Ymatebodd Rafa Benitez trwy yrru Joselu ar y cae ac fe gafodd yr eilydd argraff yn syth gan rwydo wedi i ergyd Ayoze Perez wyro i’w lwybr yn y cwrt cosbi, Abertawe ar y blaen am saith munud yn unig.
Cafodd Luciano Narsingh ac Wilfried Bony gyfleoedd i’w hennill hi i’r Elyrch yn yr eiliadau olaf ond fe wnaeth y gôl-geidwad, Karl Darlow, ac amddiffyn Newcastle yn dda i gadw’r gwrthwynebwyr allan.
Mae’r pwynt yn cadw Abertawe ar waelod y tabl, bedwar pwynt i ffwrdd o ddioglewch yr ail safle ar bymtheg.
.
Newcastle
Tîm: Darlow, Yedlin, Lascelles, Clark, Dummett, Shelvey (Merino 82’), Diame, Ritchie, Perez, Atsu, Gayle (Joselu 64’)
Gôl: Joselu 68’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, van der Hoorn (Roberts 65’), Bartley, Mawson, Olsson, Ki Sung-yueng, Dyer (Narsingh 85’), Clucas, Carroll, Ayew, McBurnie (Bony 71’)
Gôl: Ayew 60’
Cardiau Melyn: Bartley 10’, Mawson 82’, Ayew 90’
.
Torf: 51,444