Caerdydd 4–0 Sunderland
Daeth rhediag gwael diweddar Caerdydd yn y Bencampwriaeth i ben gyda buddugoliaeth yn erbyn Sunderland yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.
Roedd hi’n ddiwrnod diflas i Chris Coleman wrth iddo ddychwelyd i Gymru gyda’i dîm, nid yn unig yn colli’n drwm, ond yn gorffen y gêm gyda deg dyn hefyd.
Wedi hanner cyntaf di sgôr fe aeth y tîm cartref ar y blaen wedi llai na munud o’r ail gyda pheniad Callum Paterson o gic gornel Joe Ralls.
Roedd Sunderland i lawr i ddeg dyn yn fuan wedyn yn dilyn cerdyn coch braidd yn hallt i Didier Ndong am drosedd ar Junior Hoilett.
Manteisiodd Caerdydd yn llawn gydag ail gôl ddeg munud yn unig ar ôl troi, Ralls yn gorffen yn dda o ochr y cwrt cosbi wedi gwaith da Kenneth Zohore i lawr y chwith.
Bu rhaid aros tan ddeg munud o’r diwedd am drydedd gôl yr Adar Gleision, Paterson yn rhwydo’i ail ef wedi i gic rydd Zohore wyro i’w lwybr.
Daeth y bedwaredd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wrth i ddau eilydd gyfuno’n dda, Yanic Wildschut yn creu ac Anthony Pilkington yn rhwydo.
Cododd y canlyniad Gaerdydd i’r ail safle yn y Bencampwriaeth am ychydig o oriau cyn i Derby ddychwelyd drostynt gyda buddugoliaeth dros Birmingham yn hwyrach yn y prynhawn.
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Richards, Mendez-Laing (Wildschut 59’), Paterson, Ralls, Bennett, Hoilett (Feeney 81’), Zohore (Pilkington 82’)
Goliau: Paterson 46’ 80’, Ralls 55’, Pilkington 90+4’
Cerdyn Melyn: Morrison 85’
.
Sunderland
Tîm: Ruiter, Jones, Browning, O’Shea, Clarke-Salter, Oviedo, Gooch (Asoro 60’), Ndong, Wilson (Cattermole 45’), Honeyman, Maja (McManaman 78’)
Cardiau Melyn: Oviedo 41’, Gooch 45+1’
Cerdyn Coch: Ndong 49’
.
Torf: 17,703