Watford 1–2 Abertawe
Cafodd Carlos Carvalhal y dechrau perffaith i’w gyfnod wrth y llyw yn rheolwr Abertawe gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Watford ar Vicarage Road a hynny’n eu codi o safle isa’r Uwch Gynghrair.
Sgoriodd yr Elyrch ddwywaith yn y pum munud olaf i daro’n ôl a chipio tri phwynt sydd yn eu codi o waelod Uwch Gynghrair Lloegr.
Peniodd Andre Carrillo Watford ar y blaen wedi un munud ar ddeg ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl wrth i’r tîm cartref reoli’r hanner cyntaf.
Watford oedd y tîm gorau am ran helaeth o’r ail hanner hefyd ond methodd Andre Gray gyfle da i ddyblu’r fantais.
O’r gwaelod
Heb fygwth llawer cyn hynny, roedd Abertawe’n gyfartal gyda phum munud i fynd diolch i gôl Jordan Ayew wedi peniad Oliver McBurnie i’w lwybr yn y cwrt cosbi.
Efallai fod y gôl honno yn erbyn llif y chwarae ond dilynodd un arall yn fuan iawn wedi camgymeriad gan y gôl-geidwad cartref. Methodd Heurelho Gomes a dal ei afael yn ergyd Nathan Dyer ac adlamodd y bêl yn garedig i roi’r gôl fuddugol ar blât i Luciano Narsingh.
Mae’r tri phwynt dramatig yn ddigon i godi Abertawe oddi ar waelod y tabl, a thros West Brom, i’r pedwerydd safle ar bymtheg.
.
Watford
Tîm: Gomes, Janmaat, Wague (Prodl 64’), Kabasele, Zeegelaar, Doucoure, Watson, Carrillo (Pereyra 83’), Cleverley, Richarilson, Okaka (Gray 77’)
Gôl: Carrillo 11’
Cardiau Melyn: Carrillo 30’, Doucoure 80’, Prodl 82’, Zeegalaar 89’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Clucas (Dyer 81’), Mesa (Narsingh 45’), Carroll, Renato Sanches, Abraham (McBurnie 57’), Ayew
Goliau: Ayew 86’, Narsingh 90’
Cardiau Melyn: Fernandez 3’, Carroll 34’
.
Torf: 20,002