Y Cymro Martyn Margetson yw hyfforddwr newydd gôl-geidwaid Everton.
Mae’r hyfforddwr 46 oed yn ymuno â staff Sam Allardyce ar ôl i’r ddau gydweithio yn West Ham, Crystal Palace a Lloegr.
Roedd yn aelod o dîm hyfforddi Cymru o dan Gary Speed.
Enillodd y cyn-golwr un cap dros Gymru, gan chwarae i glybiau Caerdydd, Man City, Southend a Huddersfield.
Mae’n ymuno â Sammy Lee, Craig Shakespeare a Duncan Ferguson ar y tîm hyfforddi yn Everton, ynghyd â’r cyfarwyddwr perfformiad Ryland Morgans, gynt o Abertawe.