Mae chwaraewr canol cae tîm pêl-droed Abertawe, Ki Sung-yueng wedi dweud ei fod yn hapus i aros cyn trafod cytundeb newydd wrth iddo geisio helpu ei dîm i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr am dymor arall.

Mae ei gytundeb presennol yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ac fe fydd rhwydd hynt iddo ddechrau trafod â chlybiau eraill fis nesaf pan fydd y ffenest drosglwyddo’n agor unwaith eto.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Elyrch guro West Brom o 1-0 yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers deufis.

Mae’r canlyniad yn eu codi oddi ar waelod y tabl, ond maen nhw’n dal i fod yn y safleoedd disgyn.

‘Ymlacio’

Dywedodd Ki Sung-yueng: “Dydyn ni ddim wedi siarad â’r clwb, ry’n ni eisiau canolbwyntio ar y gemau hyn.

“Os ydyn ni allan o’r perygl o gwympo, yna efallai y bydd cyfnod gwell i drafod.

 

“O fewn y clwb, rhaid canolbwyntio ar y gemau hyn ac mae hynny’n wir amdana i hefyd.

“Dw i’n ymlacio o safbwynt fy sefyllfa i, a bydda i’n gweithio mor galed ag y galla i i helpu’r tîm hwn.”