“Rhaid i ni fwynhau’r eiliad” yw neges rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock ar drothwy eu taith i Reading yn y Bencampwriaeth nos Lun.
Mae’r Adar Gleision yn mynd am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, ac maen nhw’n ail yn y tabl ar hyn o bryd, bum pwynt y tu ôl i Wolves.
Ond does dim pwysau arnyn nhw, yn ôl eu rheolwr.
‘Cefnogwyr sy’n credu ynom ni’
“Rhaid i ni fwynhau’r eiliad,” meddai Neil Warnock.
“Mae gyda ni chwaraewyr da, cefnogwyr sy’n credu ynom ni ac mae’n le gwych i fod ar hyn o bryd.
“Gadewch i ni aros ar y roller coaster a mwynhau’r misoedd i ddod.
“Mae gan Reading chwaraewyr da iawn, felly mae’n her fawr i ni. Does neb wir yn disgwyl i ni guro’r timau hyn ond eto i gyd, ry’n ni yma ac yn mwynhau.”
Fe fydd Aron Gunnarsson a Nathaniel Mendez-Laing, dau o’r chwaraewyr allweddol, yn cael prawf ffitrwydd cyn y daith.