Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi cyfaddef fod ei dîm yn haeddu bod ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr.
Collodd yr Elyrch o 2-1 yn Stoke brynhawn ddoe, a hynny ar ôl iddyn nhw fynd ar y blaen ar ôl tair munud diolch i gôl Wilfried Bony.
Ond roedden nhw ar ei hôl hi erbyn hanner amser ar ôl i’r Saeson daro’n ôl drwy Xherdan Shaqiri a Mame Diouf.
Dywedodd Paul Clement fod perfformiad yr Elyrch yn “ddiddannedd”.
“Dw i’n credu ein bod ni wedi cyrraedd gwaelod y tabl heddiw ac alla i ddim dweud ein bod ni’n anlwcus.
“Ry’n ni wedi colli 10 gêm erbyn hynny ac nid trwy anffawd y gwnaethon ni hynny: “O, ni yw’r tîm mwyaf anlwcus yn y byd’.
“Ry’n ni’n haeddu bod ar y gwaelod oherwydd ry’n ni’n colli gormod o gemau, dydyn ni ddim yn ddigon cyson dros gyfnod o 90 munud.
“Fe ddechreuon ni’r gêm yn dda, cawson ni gôl dda ac ar ôl hynny fe chwaraeon ni bêl-droed dda tan y camgymeriad lle collodd Leroy [Fer] y bêl mewn ardal beryglus iawn ac fe fanteision nhw ar hynny.
“O ran yr ail gôl, roedden ni’n rhy ddwfn.
“Yn feddyliol, dydyn ni ddim mewn cyflwr da. Rydych chi’n mynd ar ei hôl hi ar ôl bod yn gyfartal a wnaethon ni ddim chwarae’n dda iawn o hynny ymlaen.”
Ble nesaf i’r Elyrch?
Mae’r canlyniad diweddaraf yn rhoi rhagor o bwysau eto fyth ar reolwr sydd ymhlith y ffefrynnau i fod y rheolwr nesaf i gael ei ddiswyddo.
Mae adroddiadau eisoes yn awgrymu y gallai’r Elyrch droi at y Cymro, Tony Pulis yn dilyn ei ddiswyddiad gan West Brom yn ddiweddar.
Ac fe allai gêm yr Elyrch yn erbyn West Brom yr wythnos nesaf fod yn dyngedfennol i ddyfodol Paul Clement.
Ychwanegodd: “Gofynnodd rhywun i fi lle gallwn ni fynd o fan hyn. Does dim lle arall i fynd ond i fyny.
“Ry’n ni ar waelod y tabl a dyw e’n sicr ddim yn safle ry’n ni’n hapus i fod ynddo.
“Ry’n ni’n dîm, clwb, ystafell newid siomedig iawn – dyma sefyllfa sy’n amlwg ddim yn dda iawn. Mae’r wythnos nesaf yn enfawr. Eto.”
‘Dim pwyntio bys’
Er bod perfformiadau’r tîm yn is o lawer na’r disgwyl, dyw Paul Clement ddim yn pwyntio’r bys at unrhyw arall heblaw amdano fe ei hun.
“Nid mater yw hyn o fi’n pwyntio’r bys a dweud ‘ei fai e yw e’, ond ymdrech pawb yw hyn.
“Alla i ddim ennill heb y chwaraewyr. Felly dw i’n bod yn fwy beirniadol ohonof fi fy hun oherwydd bod rhaid i fi wella a chael rhagor allan o’r tîm hwn.
“Ry’n ni’n dîm diddannedd. Yn ymosodol, dydyn ni ddim yn agos at fod yn ddigon da, dydyn ni ddim yn creu digon, dydyn ni ddim yn sgorio digon.”