Sgoriodd batiwr tramor Morgannwg, Shaun Marsh 126 heb fod allan ar ail ddiwrnod ail brawf Cyfres y Lludw yn Adelaide, wrth i Awstralia gyrraedd 442-8 cyn cau eu batiad.
Ychwanegodd e 85 gyda Tim Paine am y chweched wiced, a 98 di-guro am yr wythfed wiced gyda Pat Cummins.
Adeiladodd Awstralia bedair partneriaeth o fwy na hanner cant.
Fe allai Marsh a Paine fod wedi colli eu wicedi ar 29 a 24, ond fe gafodd y penderfyniadau eu gwyrdroi yn dilyn adolygiadau.
Collodd Paine ei wiced am 57 yn y pen draw, ond aeth Marsh yn ei flaen am bum awr a hanner, gan gyrraedd y nod oddi ar 213 o belenni – ei bumed canred mewn gemau prawf.
Gorffennodd Lloegr yr ail ddiwrnod ar 29-1 ar ôl colli Mark Stoneman am 18 ar ôl i Mitchell Starc daro’i goes o flaen y wiced.