Fe fydd gan Wilfried Bony “bwynt i’w brofi” wrth ddychwelyd i Stadiwm Bet365 i herio’i hen glwb, Stoke ddydd Sadwrn, yn ôl prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement.
Dyw’r ymosodwr ddim wedi sgorio eto mewn chwech o gemau ers iddo fe ddychwelyd i’r Elyrch ar ôl bod ar fenthyg gyda Stoke o Man City y tymor diwethaf.
Ac fe ddychwelodd e i Stadiwm Liberty cyn diwedd ffenest drosglwyddo’r haf ymhell o fod ar ei orau o ran ei ffitrwydd, gan dreulio cyfnodau allan o’r garfan ac ar y fainc yn ddiweddar.
Mae diffyg ymosodwyr yn broblem i’r Elyrch ar hyn o bryd, gan mai dim ond Wilfried Bony, Tammy Abraham ac Oli McBurnie sydd ganddyn nhw i arwain y rheng flaen. Ond mae pob un ohonyn nhw’n dioddef o ddiffyg goliau y tymor hwn.
Ond mae Paul Clement yn credu y gall Wilfried Bony ailadrodd y math o berfformiadau oedd wedi ei godi i fod yn seren yr Elyrch yn ei gyfnod cyntaf gyda’r clwb rhwng 2013 a 2015.
“Mae e’n adennill ei ffitrwydd, sef ei gam cyntaf i gael ei siarprwydd yn ôl mewn gemau. Dyw e ddim y math o chwaraewr sy’n mynd i redeg o gwmpas i bob man ac ymosod y tu ôl i’r amddiffyn.
“Doedd e ddim fel’na pan oedd e yma y tro cyntaf. Mae e’n chwarae trwy’r canol ac yn arwain y tîm i chwarae wrth symud ymlaen a mynd i mewn i’r cwrt cosbi.
“Dyw hynny ddim wedi newid yn ei gêm. Efallai y bydd gan Wilf ysgogiad ychwanegol wrth herio’i hen glwb oherwydd ei fod e wedi cael rhwystredigaeth yno heb fod wedi chwarae ryw lawer ac yn aml, mae gan chwaraewyr bwynt i’w brofi.”
Sgorio yn erbyn ei hen glwb
Fis Hydref y llynedd, sgoriodd Wilfried Bony ddwy gôl i Stoke yn erbyn yr Elyrch yn y gêm yn Stadiwm Bet365.
Ac mae Paul Clement yn gobeithio y gall e ailadrodd y gamp yng nghrys Abertawe y tro hwn.
“Gall ddigwydd fel’na weithiau. Fe ddigwyddodd i ni’n ddiweddar gyda Jack Cork [i Burnley]. Dyw e byth yn sgorio ond fe wnaeth e yn ein herbyn ni.”
Fe ddaeth Wilfried Bony o fewn trwch blewyn i sgorio yn erbyn Bournemouth yn ddiweddar, ond fe benderfynodd y dyfarnwr fod Jordan Ayew yn euog o drosedd cyn i’r ymosodwr rwydo.
Ychwanegodd Paul Clement: “Dw i’n clywed sibrydion ei fod e wedi’i ysgogi ar gyfer [y gêm hon].
“Mae’n drueni mawr nad oedd y gôl yn erbyn Bournemouth wedi’i chaniatáu. Pan gaiff e un, gobeithio y bydd effaith ddomino ac y byddan nhw’n dod yn fwy aml.”