Mae trydedd rownd Cwpan Cymru penwythnos hon gyda nifer o gemau diddorol, a’r posibilrwydd o sioc yn y gêm ddarbi yn Sir Gâr rhwng Rhydaman a Chaerfyrddin.
Ar hyn o bryd mae Caerfyrddin ar waelod Uwch Gynghrair Cymru gydag ond pedwar pwynt ac ond wedi ennill un gêm, a hynny oddi cartref yn y Bala ym mis Medi.
Mae Rhydaman yng nghanol Adran 2 Cynghrair y De, dau gynghrair yn is na Chaerfyrddin ond gyda’r fantais o fod adre mae eu rheolwr yn ffyddiog.
“Heb os mae’n mynd i fod yn gêm galed er gwaethaf eu safle yn yr Uwch Gynghrair, mae’r pwysau i gyd arnyn nhw,” meddai Gruff Harrison wrth golwg360.
“Mae’r gêm yn un anferth i Rydaman, rydan yn disgwyl torf eithaf, ac rydan wedi bod yn marchnata’r gêm ers i’r enwau ddod allan [o’r het]. Rwyf wedi bod yn yr ysgolion yn rhoi tocynnau am ddim i’r plant yn gobeithio caiff nhw ddiwrnod i’w gofio a byddan nhw eisiau dod eto, fel cefais i’r byg pan oeddwn yn ifanc.”
Mae Gruff Harrison yn hanu o’r dre ac ymunodd â’r clwb pan yn 13 oed.
“Mi wnes arwyddo ffurflenni ysgol ag Abertawe yn 14 tan 16, ond gefais fy rhyddhau a wnes ail ymuno â Rhydaman. Mae’r clwb yn meddwl llawer i fi a gefais gynnig swydd fel is-reolwr pan yn 21, ond ar ôl chwech mis adawodd y rheolwr a gefais y swydd rheolwr.
“Rwyf yn 28 rŵan, dal yn ifanc, a’r uchelgais ydy rheoli yn Uwch Gynghrair Cymru. Y gobaith yw dyrchafiad i Rydaman i Adran 1 a sefydlu’n hunain. Pe bai pethe mynd yn dda yn y dyfodol buasai angen buddsoddiad anferth i greu cyfleusterau sy angen i symud y clwb ymlaen.
“Rydan yn ceisio cael dyrchafiad gyda hogiau lleol, ond mae’n gystadleuol, rydan mewn ardal gyda nifer o glybiau sef Cwmaman, Caerfyrddin, Llanelli a Llansawel.
“Mae tua 16 milltir rhyngom ni a Chaerfyrddin ond mae’r gystadleuaeth yn un gyfeillgar, ond y gobaith yw mai Rhydaman bydd yn yr wyth olaf nos Sadwrn.”
Mae gan Gaerfyrddin atgofion melys o’r gwpan ar ôl ei hennill yn 2007 gan guro Lido Afan yn y rownd derfynol.
Hefyd y penwythnos yma yn y cwpan mae y Barry yn wynebu gêm galed oddi cartref yng Nghaernarfon, gyda’r ornest honno yn fyw ar Sgorio b’nawn Sul.