Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi dweud y bydd e’n dewis Gareth Bale yng ngharfan Cymru os yw Real Madrid yn ei ddewis i chwarae iddyn nhw yn dilyn yr anaf i’w goes.
Dyw e ddim wedi chwarae dros Gymru ers Medi 26, ond mae lle i gredu bod Real Madrid yn barod i’w gynnwys yn y tîm unwaith eto cyn iddo waethygu’r anaf wrth ymarfer gyda’r Sbaenwyr.
Doedd e ar gael i Gymru ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc nos Wener. Fydd e ddim ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Panama yr wythnos hon ychwaith, ac mae pryderon erbyn hyn y gallai fod allan am hyd at chwe wythnos arall.
Ers ymuno â Real Madrid yn 2013, dyw e ddim wedi bod ar gael ar gyfer 91 allan o 250 o gemau.
Cwpan Tsieina
Bydd Cymru’n cystadlu yng Nghwpan Tsieina ym mis Mawrth, ac mae pryderon na fydd e ar gael ar gyfer y gystadleuaeth, a allai olygu bod Cymru’n colli arian. Mae timau’n cael arian ychwanegol os yw eu prif chwaraewyr ar gael ar gyfer y gystadleuaeth.
Daw’r gystadleuaeth bedwar diwrnod yn unig cyn rownd wyth olaf Cynghrair y Pencampwyr, wrth i Real Madrid geisio amddiffyn eu teitl.
‘Disgwyl iddo chwarae’
Yn ôl Chris Coleman, mae disgwyl i Gareth Bale gynrychioli Cymru os yw e’n ffit.
“Gobeithio y bydd Gareth yn dychwelyd cyn neu ychydig ar ôl y Nadolig, a bydd gyda ni ddau neu dri mis cyn Cwpan Tsieina.
“Ry’n ni’n disgwyl, os yw chwaraewyr yn ddigon ffit i’w clybiau, eu bod nhw’n ddigon ffit i ni. Dyna sut ry’n ni’n edrych arni.
“Dy’n ni byth yn cymryd risg, dy’n ni erioed wedi gwneud hynny a dw i ddim yn rhagweld y bydd hynny’n newid yn y dyfodol.
“Ond os yw e’n ffit i Madrid, yna mae e’n amlwg yn ffit i ni.”