Mae Chris Coleman yn enw posib sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd hyfforddwr newydd West Ham.

 

Daeth cadarnhad heddiw fod y clwb pêl-droed wedi diswyddo Slaven Bilic yn dilyn eu canlyniad siomedig yn erbyn Lerpwl ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw golli 4 – 1.

 

Mi gafodd Slaven Bilic ei benodi ddwy flynedd yn ôl ac mae datganiad gan y clwb yn dweud fod “nawr yn amser am newid.”

 

Mi fydd Chris Coleman yn arwain Cymru wrth iddyn nhw herio Ffrainc nos Wener (Tachwedd 10) mewn gêm gyfeillgar, ac yna Panama nos Fawrth (Tachwedd 14).

 

Er hyn, mae eto i gyhoeddi a fydd yn parhau i hyfforddi Cymru wedi hynny.

 

Enwau eraill sy’n cael eu hystyried ar gyfer prif swydd West Ham yw David Moyes, Carlo Ancelotti, Manuel Pellegrini a Sean Dyche.