Mae Clwb pêl-droed Llandudno wedi penodi cyn-reolwr Caernarfon, Iwan Williams, fel eu rheolwr newydd.

Mae Iwan Williams yn gyn-gapten a chwaraewr â’r clwb a bydd yn dechrau yn ei swydd yn syth. Mae’n cymryd drosodd gan Alan Morgan wnaeth adael y clwb  yn ddiweddar ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.

Mae  Iwan Williams yn gadael Caernarfon ar frig tabl y Gymru Alliance, ac nid oedd yn benderfyniad hawdd, meddai.

Penderfyniad anodd

“Roedd yn benderfyniad anodd, dwi heb gysgu llawer dros y dyddiau diwethaf,” meddai wrth Golwg360. “Rydw i wedi cael cyfnod da gyda’r Cofis ond roedd hon yn gyfle na allwn ei wrthod.

“Rwyf yn gwylio gemau’r Uwchgynghrair yn gyson, felly dwi’n gwybod mwy na mae pobl yn feddwl. Rydw i hefyd yn nabod nifer o garfan Llandudno, chwaraewyr fel Toby Jones, Tom Dix a Danny Hughes, ond y peth cyntaf dwi wedi deud wrth y garfan yw bod pawb yn dechrau â llechen lan.

“Rwyf yn benderfynol ac yn uchelgeisiol, felly dwi ddim wedi dod i’r clwb i fod yn y gwaelodion, y nod ydy’r chweched uchaf a thargedu Ewrop. Rwy’n gweld hyn fel dilyniant yn fy ngyrfa. Heb os mi fyddai’n cadw llygad ar ganlyniadau Caernarfon, a gobeithio caiff y clwb, yn enwedig y cefnogwyr, y llwyddiant maen nhw’n haeddu.

“Rwyf wedi cael nifer o negeseuon yn fy llongyfarch, ac y gyntaf oedd gan Gavin Chesterfield, rheolwr Y Barri, ein gwrthwynebwyr ddydd Sadwrn nesaf, ac wedyn mae prawf caled arall yn erbyn  Y Seintiau Newydd.”

Mae gan Iwan Williams drwydded ‘A’ ar hyn o bryd ac mae’r clwb yn gobeithio y caiff ei dderbyn ar y cwrs ‘Pro’ yn y dyfodol agos fyddai’n ei ganiatáu i arwain Llandudno i Ewrop am yr eildro’n unig yn eu hanes.

Apwyntiad positif

“Fel cadeirydd, rwyf yn falch o gael Iwan yn ôl i’r clwb,” meddai’r Cadeirydd, Russ Austin , wrth Golwg360, “Rwyf yn ei nabod ers 25 mlynedd ac wedi’i weld o’n datblygu o chwaraewr ifanc  i fod yn llwyddiannus fel hyfforddwr a rheolwr. Rwy’n gweld yr apwyntiad hwn yn gam bositif i’r clwb. Rydan ni fel clwb yn ddiolchgar  i Gaernarfon am eu cydweithrediad a gobeithio na fydd yn hir cyn y gwelwn ni nhw nôl yn yr uwchgynghrair.”

Roedd Alan Morgan wedi bod yn llwyddiannus yn y swydd, roedd y clwb yn brwydro am ei le yn y Gymru Alliance pan wnaeth dderbyn y swydd, wnaeth droi’r clwb i dîm wnaeth ennill y gynghrair ac ennill dyrchafiad i’r Uwchgynghrair am y tro cyntaf yn ei hanes, ac yn eu tymor gyntaf wnaeth gymhwyso i Ewrop – dipyn  o gamp yn hanes y clwb.

O dan reolaeth Morgan fe wnaeth Llandudno fynd drwodd i Ewrop a chystadlu â IFKGoteburg o Sweden yng nghynghrair Ewrop, colli 5-0 oddi cartref ac ond 1-2 ar Stadiwm Nantporth. Gyda Chaernarfon yn edrych am reolwr newydd tybed ai Morgan fydd yr enw ar fwrdd y Cofis?