Roedd gan fachgen 10 oed neges glir i dîm pêl-droed Abertawe yn dilyn eu colled o 1-0 yn erbyn Brighton yn Stadiwm Liberty brynhawn dydd Sadwrn.
Roedd ‘William’ wedi ffonio rhaglen 606 ar Radio 5 Live, sy’n cael ei chyflwyno gan Jason Mohammad a Robbie Savage, i ddweud wrthyn nhw yn union lle roedd y tîm wedi mynd o’i le yn ystod y gêm.
“Wel, yr hyn dw i’n ei gael yn siomedig iawn yw eu bod nhw, yn ystod y ffenest drosglwyddo, wedi colli Gylfi Sigurdsson oedd yn un o’n chwaraewyr gorau ni y tymor diwethaf, byddwn i’n dweud.
“Aeth Fernando Llorente i Spurs ond dyw e ddim yn cael llawer o amser ar y cae ac fe wnaethon ni ddisodli’r ddau gyda Wilfried Bony, sydd heb chwarae am ddau dymor ac ry’n ni’n disgwyl iddo fe sgorio 10 gôl bob tymor!”
Ymateb Robbie Savage
Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd Robbie Savage wrtho: “Byddi di’n mynd â fy swydd i ymhen rhai blynyddoedd!”
Ond roedd gan William ragor o sylwadau cyn i’w alwad ddod i ben, gan gynnwys a yw e’n credu y bydd yr Elyrch yn aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.
“Wel, ddim wir. Os ydyn ni’n chwarae gyda’r angerdd a’r safon wnaethon ni chwarae heddiw – hynny yw, dim ond Brighton oedden ni’n chwarae – yna, mae’n debygol y byddwn ni’n mynd i lawr.”
A beth, tybed, oedd ei gyngor i’r chwaraewyr?
“Ergydiwch! Roedden ni’n ofni ergydio drwy gydol y 90 munud.”
Gwahoddiad gan sylwebydd
Ar ôl clywed ei ddadleuon, cafodd William wahoddiad gan sylwebydd a chyflwynydd Radio 5 Live, Jonathan Overend i fynd i stiwdio’r orsaf wrth iddo ddarlledu.
Dywedodd Jonathan Overend fod William yn “seren y dyfodol”.
Eglurodd ei dad y byddai William “wrth ei fodd” yn cael bod yn sylwebydd yn y dyfodol.
Un sylw bach olaf
Wrth i’r sgwrs ddirwyn i ben, eglurodd Robbie Savage wrth William fod ei gyd-gyflwynydd Jason Mohammad yn cefnogi Caerdydd.
Ymateb William, yn syml, oedd “Pam?”