Y dyfarnwr gafodd y bai gan reolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock ar ôl i’w dîm golli o 2-1 yn erbyn Bristol City yn Ashton Gate.

Dywedodd y rheolwr y dylai Marlon Pack fod wedi gweld cerdyn coch am dacl flêr ar Sol Bamba cyn i ymosodwr a sgoriwr yr Adar Gleision, Omar Bogle gael ei anfon o’r cae ar ôl 55 munud.

Ond dyw e ddim wedi gwrthwynebu’r penderfyniad hwnnw gan Mike Jones.

 

“Fe ddylai tacl waetha’r gêm ar Sol Bamba fod wedi bod yn [ail] gerdyn melyn yn erbyn Pack, ac mae e wedi anwybyddu’r peth yn llwyr.

“Does dim clem gyda fi pam nad yw e wedi bwcio fe… fe ddylai e fod wedi bod bant. Roedden nhw [y dyfarnwyr] yn gwybod y dylai e fod wedi bod bant.

“Fe wnaeth hynny fy ypsetio i heddiw,” meddai, cyn ychwanegu fod “y dyfarnwr yno i ddyfarnu’r gêm”.