Roedd perfformiad tîm pêl-droed Abertawe wrth golli o 1-0 yn erbyn Brighton yn Stadiwm Liberty yn “annerbyniol”, yn ôl y prif hyfforddwr, Paul Clement.
Ond mae’n gwadu ei bod yn argyfwng ar y clwb wrth iddyn nhw lithro yn ôl i’r safleoedd disgyn unwaith eto yn dilyn eu pumed colled mewn chwe gêm.
Roedd y prif hyfforddwr yn cael ei glodfori ar ôl achub yr Elyrch yn ail hanner eu hymgyrch yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf.
Ond fe wnaeth y cefnogwyr droi arno fe, perchnogion Americanaidd y clwb a’r cadeirydd Huw Jenkins yn dilyn canlyniad siomedig arall heddiw.
Ar ôl y gêm, dywedodd Paul Clement: “Os ydyn ni’n chwarae i’r safonau hynny, allwn ni ddim disgwyl ennill gêm.
“Ry’n ni’n dîm sy’n ei chael hi’n anodd o ran hyder ar hyn o bryd, ond doedd y perfformiad ddim hyd yn oed yn ddigon da i ennill pwynt.
‘Awyrgylch wedi effeithio ar y chwaraewyr’
Ond roedd gan Paul Clement rybudd i’r cefnogwyr ar ôl y gêm hefyd.
“Mae’n bosib fod yr awyrgylch wedi effeithio ar y tîm ac ar rai unigolion, ond ein gwaith ni yw ymdopi â hynny – rhaid i ni – oherwydd ry’n ni mewn cyfnod gwael, does dim amheuaeth am hynny.
“Os yw’r ffans yn rhwystredig – ac nid dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ddangos hynny, er bod hyn yn fwy ffyrnig – yna, does neb yn fwy siomedig a rhwystredig yn lefelau’r perfformiad na fi.
“Ar hyn o bryd, ry’n ni mewn lle gwael iawn, does dim amheuaeth am hynny.
“Ond gyda’n gilydd, a gyda fi wrth y llyw, rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o gael buddugoliaeth.”
Dal i gredu
Er y siom, mae Paul Clement yn mynnu bod y chwaraewyr yn dal i gredu eu bod nhw’n gallu goroesi y tymor hwn.
“Mae llawer o’r chwaraewyr yn ein criw ni wedi bod yn y sefyllfa yma o’r blaen ac ry’n ni’n dal i gredu y gallwn ni ddianc, ond dydyn ni ddim eisiau i hyn rygnu ymlaen. Rhaid i ni wneud rhywbeth yn fuan.”
Ac fe gyfaddefodd fod rhaid gwella’r garfan ym mis Ionawr pan fydd y ffenest drosglwyddo’n agor unwaith eto.