Fe gollodd Casnewydd eu hail gêm gartref yn olynol y prynhawn yma wedi i Gaergrawnt eu curo 0-1.
Seliwyd buddugoliaeth yr ymwelwyr yn yr hanner cyntaf wedi i ddau chwaraewr oedd yn ennill eu capiau cyntaf gyfrannu er mwyn sgorio’r gôl arwyddocaol.
Dangosodd Peter Winn weledigaeth wych i ganfod rhediad hwyr Ryan Charles gyda’i groesiad, ac fe osododd hwnnw’r bêl yn ddidrafferth yng nghefn y rhwyd.
Daeth Winn o fewn trwch blewyn i ddyblu mantais Caergrawnt wedi hanner awr, ond fe beniodd heibio’r postyn.
Fe ddeffrodd Casnewydd a chychwyn pwyso’n galed er mwyn unioni’r sgôr.
Bu bron i amddiffynnwr Caergrawnt, Josh Coulson, roddi gobaith i Gasnewydd wrth iddo benio’r bêl yn erbyn ei drawst ei hun, ond fe lwyddodd yr ymwelwyr i amddiffyn a dal ymlaen i gipio’r triphwynt.