Dean Saunders
 Fe sgoriodd Jamie Tolley a Danny Wright wrth i Wrecsam guro Kidderminster o 2-0 ar y Cae Ras a sefydlogi eu safle ar frig tabl cynghrair y Blue Square.

Dyma’r chweched buddugoliaeth yn olynol i Wrecsam, ac mae eu perfformiadau clodwiw ar faes y chwarae yn parhau er gwaetha’r cythrwfl oddi arno. 

Roedd Wrecsam yn llwyr haeddu’r tri phwynt y prynhawn yma yn erbyn tîm sydd wedi gwario llawer iawn ar chwaraewyr newydd yn ystod yr haf.

Tolley sgoriodd gôl gyntaf y Dreigiau wedi 24 munud, yn rhwydo wedi croesiad Curtis Obeng. Yna sgoriodd Danny Wright ei gyntaf o’r tymor newydd wedi prin tair munud o’r ail hanner.

Yn absenoldeb Chris Maxwell, sydd wedi cael ei alw gan Brian Flynn i garfan rhyngwladol dan 21 Cymru, fe fu Joslain Mayebi yn dirprwyo rhwng pyst Wrecsam. Gorfu iddo wneud arbediad cadarn o ergyd gref Luke Medley yn ystod yr ail hanner.

Ond fe reolodd Wrecsam weddill yr ornest, ac fe lwyddwyd i rwystro’r ymwelwyr rhag sgorio er mwyn aros o flaen Gateshead ar frig y gynghrair ar wahaniaeth goliau.