Sam Vokes
Mae rheolwr Cymru, Gary Speed, wedi galw’r ymosodwr, Sam Vokes, i mewn i’w garfan ar gyfer gemau rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth Ewrop yn erbyn Montenegro a Lloegr.
Bu’n rhaid i’r amddiffynnwr, Neal Eardley, dynnu allan wedi iddo dorri bysedd, sy’n golygu y bydd Vokes, sy’n chwarae gyda Wolverhampton Wanderers, yn cael ei gyfle i greu argraff.
Mae amddiffynnwr Aston Villa, James Collins, wedi’i wahardd ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn Montenegro yng Nghaerdydd ar nos Wener, 2 Medi, ond fe fydd ar gael i’w ddethol ar gyfer yr ornest yn erbyn Lloegr yn Wembley ar nos Fawrth, 6 Medi.
Mae Craig Bellamy, Aaron Ramsey a Gareth Bale oll yn holliach ac ar gael i Speed eu cynnwys yn y tîm.
Methodd Vokes y gêm gyfeillgar ddiweddar yn erbyn Awstralia oherwydd anaf i’w ffêr, ond fe fydd yr ymosodwr yn gobeithio ennill ei 19eg cap yn erbyn unai Montenegro neu Loegr.
Mae Cymru wedi colli pob un o’u pedwar gêm gyntaf yn y grŵp – y dechrau gwaethaf ers ymgyrch Cwpan y Byd 1970.
Er nad oes gobaith bellach i Gymru gael dyrchafiad o gymal y grwpiau, mae Osian Roberts, sy’n aelod o dîm hyfforddi carfan Cymru, yn haeru fod y gemau hyn yn parhau i fod yn hollbwysig iddynt.
“Roeddem ni’n gwybod o’r dechrau, ers i Gary Speed gael y swydd, fod talcen caled o’n blaenau o ran cael dyrchafiad o’r grŵp ar ôl colli’r tair gêm gyntaf,” meddai.
“Y bwriad felly oedd paratoi a datblygu at y dyfodol. Mae’n rhaid i ni roi’r pwyslais ar fagu hyder a gwella ein perfformiadau… dyna’r flaenoriaeth. Mae’r canlyniad yn dod yn ail.”
Wedi dweud hynny, fe lithrodd Cymru i’r 117eg safle ar restr detholion y byd yr wythnos diwethaf, ac mae’r pwysau’n codi ar Gary Speed a’i griw i ddangos fod gobaith ar gyfer y dyfodol.