Criw Sgorio
Dyma dîm yr wythnos Uwch Gynghrair Cymru wedi’i ddewis yn arbennig i Golwg360 gan griw Sgorio…
Golwr:
Chris Curtis (Lido Afan) – Mae ei gampau rhwng y pyst nos Wener wrth rwystro Lee Trundle a’i gyfeillion yn sicrhau mai dim ond un dewis oedd ar gyfer golwr tîm y penwythnos!
Amddiffynwyr:
Wyn Thomas (Aberystwyth) – Dewis Malcolm Allen fel seren y gêm fyw’r penwythnos yma, llwyddodd Thomas i gadw Les Davies yn ddistaw ar Ffordd Farrar – ddim y peth hawsaf yn y byd i’w wneud!
Simon Spender (Y Seintiau) – Roedd cyn chwaraewr Wrecsam yn allweddol wrth greu un o goliau’r Seintiau nos Wener yn erbyn Prestatyn ac mae ei ddoniau gwrthymosod yn mynd i fod yn gaffaeliad i’r Seintiau’r tymor yma.
Danny Thomas (Airbus) – Ei groesiad arweiniodd at y gôl ddaeth ag Airbus yn gyfartal â Llanelli, ond yn ogystal â’i fygythiad ymosodol roedd Thomas yn gadarn yn yr amddiffyn yn erbyn ymosodwyr chwim Llanelli.
Liam Hancock (Lido Afan) – Llwyddodd Hancock i gadw ei gyn gyd-chwaraewyr yn ddistaw wrth i Lido synnu eu cymdogion, Castell-nedd, â chreu sioc y penwythnos.
Canol Cae:
Mark Jones (Y Bala) – Roedd cyn chwaraewr Wrecsam a Chymru yn ysbrydoledig yng nghanol cae’r Bala unwaith eto gan reoli’r chwarae yn wych. Mae ei ddoniau yn sicr o fod yn un o’r rhesymau mawr pam fo gwŷr Colin Caton ar y brig ar hyn o bryd!
Sion Edwards (Bangor) – Mae Edwards wedi cael cyfle i ddechrau mwy o gemau’r tymor yma yn hytrach na dod i’r maes fel eilydd, a bachodd ar y cyfle brynhawn Sadwrn gyda chwip o gôl yn erbyn Aberystwyth.
Nicky Palmer (Caerfyrddin) – Roedd Palmer yn weithgar tu hwnt wrth ysbrydoli ei dîm i fuddugoliaeth wych dros Port Talbot – rhwydodd gôl agoriadol yr Hen Aur yn ogystal â bod yn arwrol wrth amddiffyn.
Ymosodwyr:
Lewis Codling (Aberystwyth) – Roedd Codling yn ddraenen yn ystlys amddiffyn Bangor trwy gydol y prynhawn ac roedd ei basio slic a arweiniodd at gôl agoriadol Aber yn hyfryd i wylio.
Craig Moses (Llanelli) – Yn ei gêm gyntaf yn ôl i Lanelli ar ôl ennill medal arian gyda thîm Prif Ysgolion Prydain yng ngemau Myfyrwyr y Byd yn Beijing, China, llwyddodd Moses i rwydo gôl i’r Cochion a chreu llu o broblemau i amddiffyn Airbus trwy gydol y prynhawn.
Chris Mason (Y Bala) – Rhwydodd Mason ei drydedd gôl mewn tair gêm wrth i dîm Colin Caton esgyn i’r brig – prawf na fydd Y Bala yn or- ddibynnol ar eu seren newydd, Lee Hunt, yn ystod y tymor.