Llwyddodd Aberystwyth i ennill pwynt yn erbyn pencampwyr y llynedd ar Ffordd Farrar ddydd Sadwrn – a hynny ar ôl brwydro’n galed gyda 10 dyn yn unig yn hanner awr olaf y gêm.
Unwaith eto, diffyg disgyblaeth oedd gwendid Aberystwyth. Dyna’r drydedd gêm yn olynol i un o’u chwaraewyr dderbyn cerdyn coch ers cychwyn y tymor. Cafodd Sion James ei ddanfon o’r cae wedi 64 munud, ei ail gerdyn coch y tymor hwn.
Mewn hanner cyntaf lle’r oedd cyfleoedd yn brin, fe arbedodd golwr Aberystwyth yn gadarn wedi ergyd gan Chris Jones. Yna fe ddangosodd gol geidwad Bangor, Lee Idzi, ei fod yntau werth ei halen gan arbed yn wych o ymdrech Lewis Codling.
Bu bron iawn i Andy Parkinson roi ei enw ar y sgorfwrdd i Aberystwyth hefyd gydag ergyd o ongl dynn, ond fe drawodd y bêl y postyn pellaf, gan adlamu ymaith i ddiogelwch.
Tra oedd 11 dyn gan y ddau dîm, Aberystwyth oedd yn cael y gorau o’r meddiant a’r cyfleoedd, ac fe ddangosodd yr oruchafiaeth yma’n fuan wedi’r egwyl wrth i Anthony Finselbach rwydo i’r ymwelwyr.
Fe gyfrannodd Craig Williams a Lewis Codling at symudiad taclus cyn croesi i Finselbach ei gorffen, ond fe’i hanafwyd yn y broses, a gorfu iddo adael y cae yn syth.
Ond fe unionwyd y sgôr yn syth wrth i’r Dinasyddion ymateb gyda foli gelfydd Sion Edwards o ymyl y cwrt cosbi wedi tafliad hir Peter Hoy.
Er i James gael ei yrru o’r cae gyda thraean o’r gêm yn weddill, fe amddiffynnodd yr ymwelwyr yn glodwiw tan y diwedd i ennill pwynt llawn haeddiannol.
Balchder a siom
Dywed rheolwr Aberystwyth, Alan Morgan, ei fod yn teimlo cymysgedd o falchder fod ei dîm wedi llwyddo i ennill pwynt caled oddi cartref, ond siomedigaeth o weld un o’i chwaraewyr yn derbyn cerdyn coch unwaith eto.
“Mae’n siom, oherwydd mi fedrwn ni fod wedi cael mwy o’r gêm,” meddai, “Dwi’n teimlo mai ni oedd y tîm gorau tra bod gennym ni 11 dyn ar y cae, ond wnaethom ni ddim gwneud y mwyaf o hynny.”
Oedd y cerdyn coch yn haeddiannol? “Dwi heb weld o ar y teledu eto, ond mae’n ymweld ei fod o (James) wedi ei dynnu o yn ôl, a’r dyddiau yma, mae hynny’n drosedd.”
“Rhaid i ni ddysgu i ddisgyblu ein hunain yn well,” meddai Alan Morgan, “Mae o’n mynd i gostio i ni yn y pen draw.”
Mae Alan Morgan hefyd yn obeithiol y bydd un neu ddau o chwaraewyr ychwanegol yn cyrraedd cyn diwedd y ffenestr drosglwyddiadau, ac mae’n rhybuddio ei garfan nad oes safle unrhyw un yn ddiogel.
“Os fydd rhywun yn cael ei wahardd o hyn ymlaen, yna efallai fydd rhaid iddynt aros dipyn cyn cael adennill eu lle yn y tîm. Mae gennym ni ddigon o chwaraewyr da ar y fainc sydd yn dyheu am gael chwarae.”
Wedi dweud hynny, mae’n cydnabod fod gêm gyfartal yn Ffordd Farrar yn ganlyniad da. “Mae’n siŵr fy mod i’n hapusach gyda’r canlyniad nag yw Nev Powell (rheolwr Bangor), o ystyried eu bod nhw’n glwb gyda mwy o arian, ac roedd ganddynt fantais o ran nifer chwaraewyr am ran o’r gêm.
“Fe wnaethom ni amddiffyn yn dda. Mae’n anodd amddiffyn yn erbyn Bangor oherwydd maen nhw mor uniongyrchol, yn taflu peli i ganol y cwrt o hyd.
“ Roedd o fwy na thebyg yn ganlyniad teg yn y pen draw.”