Dyma dîm yr wythnos Uwch Gynghrair Cymru, wedi’i ddewis yn arbennig i Golwg360 gan griw Sgorio. Bydd uchwfbwyntiau’r Uwch Gynghrair ar S4C am 10pm heno.
Golwr
Nikki-Lee Bulmer (Airbus UK) – Cyfres o arbediadau gwyrthiol ganddo yn achub pwynt i’w dîm yn erbyn Port Talbot.
Amddiffynwyr
John Irving (Y Bala) – Perfformiad disglair i’r cefnwr dde wrth i’r Bala gipio pwynt oddi cartref yn y Seintiau Newydd.
Paul Cochlin (Port Talbot) – Enillodd bopeth yn yr awyr ar ei ymddangosiad cyntaf i’w glwb newydd a sgoriodd gôl ar ben y cyfan.
Lee Hartshorn (Y Drenewydd) – Llechen lân a triphwynt i’r Drenewydd a’u rheolwr newydd Bernard McNally. Tîm newydd sbon ganddyn nhw i bob pwrpas, ond un o’r hen wynebau o’r tymor diwethaf yn chwarae rôl allweddol.
Kai Edwards (Castell-nedd) – Tymor ardderchog gyda Phrestatyn llynedd, ymddangosiad cyntaf cryf i Gastell-nedd yn ymosodol ac amddiffynnol bnawn Sul yn erbyn Aber.
Canol Cae
Matty Crowell (Port Talbot)- Gêm gyntaf cyn-chwaraewr Wrecsam i Bort Talbot a safon ei chwarae yn amlwg trwy’r gêm, ciciau gosod peryglus hefyd.
Dave Morley (Bangor) – Dewiswyd yn seren y gêm gan Malcolm Allen o’r gêm fyw rhwng Bangor a Llanelli. Capten am y dydd, dangosodd gymeriad i droi colled yn fuddugoliaeth.
Leon Jeanne (Lido Afan)- Ei 15fed clwb mewn 16 mlynedd ond fe brofodd cyn-chwaraewr Caerdydd a QPR bod ganddo’r sgiliau o hyd, os nad y ffitrwydd ar hyn o bryd. Un i’w wylio am weddill y tymor.
Ymosodwyr
Les Davies (Bangor) – Efallai nad oedd ei enw i lawr fel un o sgorwyr tair gôl Bangor bnawn Sadwrn, ond creodd bob un o’r goliau i’r Pencampwyr.
Chris Mason (Y Bala) – Prif sgoriwr y clwb y tymor diwethaf yn rhoi neges i’w reolwr Colin Caton er iddo arwyddo Lee Hunt, bod yna ymosodwr arall am hawlio’i le yn y tîm.
Kerry Morgan (Castell-nedd) – Dychwelyd am ei ail gyfnod gyda’r Eryrod. Draenen yn ystlys Aber drwy’r pnawn. Sgoriodd y bedwaredd ym mherfformiad campus tîm Terry Boyle.