Matthew Rees
Cadarnhawyd heddiw y bydd capten Cymru, Matthew Rees, yn methu Cwpan y Byd oherwydd anaf i’w wddf.
Bu Rees, bachwr y Scarlets, yn derbyn triniaeth a therapi dwys er mwyn lleddfu’r boen a cheisio adfer mewn pryd, ond cyhoeddwyd y bydd rhaid iddo dderbyn llawdriniaeth i gywiro’r broblem.
Datgelodd Warren Gatland yr wythnos diwethaf fod Rees mewn “poen difrifol” ond doedd dim sicrwydd a fyddai yn methu’r bencampwriaeth yn Seland Newydd.
Ond mae’n swyddogol erbyn hyn y bydd rhaid i Richard Hibbard lenwi safle Rees yn y garfan.
Dywed meddyg y tîm rhyngwladol, Prav Mathema mai “lles Matthew, a pharhad ei yrfa, yw ein blaenoriaeth erbyn hyn”.
“Rydyn ni i gyd yn siomedig na fydd Matthew’n gallu dod gyda ni i Gwpan y Byd, ond ei iechyd ef sydd bwysicaf.
“Ni fydd Matthew ar gael i’w ddewis oherwydd y poen yn ei wddf.
“Wedi cyfres o bigiadau a thriniaeth ddwys, penderfynwyd ei hepgor o’r garfan er mwyn caniatáu iddo gael llawdriniaeth.”
Gwnaethpwyd y penderfyniad ar y cyd rhwng timoedd meddygol y Scarlets ac Undeb Rygbi Cymru.