Mae dyfodol Craig Bellamy dal yn y fantol ar drothwy penwythnos cyntaf tymor newydd Uwch Gynghrair Lloegr.
Bydd ei glwb presennol Manchester City yn croesawu Abertawe ar gyfer eu gêm gynta’ nos Lun.
Os na chaiff trosglwyddiad ei drefnu ar ei ran yn fuan, ni fydd Craig Bellamy yn debygol o gael chwarae pêl-droed tîm cyntaf yn gyson i unrhyw glwb y tymor hwn.
Fe chwaraeodd yn dda dros ei wlad nos Fercher yn y golled 1-2 yn erbyn Awstralia, ond mae’n bur debyg na chaiff chwarae pêl-droed hŷn am bron i fis arall nawr, tan fydd Cymru’n croesawu Montenegro mewn gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2012.
Treuliodd y tymor diwethaf ar fenthyg gyda Chaerdydd yn y Bencampwriaeth, ac mae Bellamy’n gwybod nad oes llawer o ddyfodol iddo nôl yn Manchester City.
Cafodd ei adael allan o garfan y clwb ar eu taith i Ogledd America dros yr haf, a pan ofynnwyd i Roberto Mancini yr wythnos ddiwethaf os oedd Bellamy’n cael ei ystyried ar gyfer y gêm ‘Charity Shield’, ateb cryno oedd gan y rheolwr – “Na”.
Mae gan Mancini lond llaw o chwaraewyr yn ei rengoedd sy’n annhebygol o gael eu hystyried am le yn y garfan drwy gydol y tymor, ond mae’n mynnu fod ganddo “nifer o chwaraewyr da, sy’n haeddu cael chwarae ond nid yw’n bosib iddynt gael lle yma. Dw i’n gobeithio caiff eu problem ei datrys.”
Mae Bellamy, sy’n 32 oed erbyn hyn, yn gwybod lle bynnag yr eith nad oes posib i unrhyw glwb arall gynnig cyflog cystal â’r un mae’n ei gael gan Man City.
Er bod Sunderland a Chaerdydd wedi dangos cryn ddiddordeb yn yr ymosodwr, gall yr un ohonyn nhw fforddio talu’r £90,000 wythnosol mae’n hawlio.
Ymrwymiad Elusennol
Dywedodd Bellamy’n ddiweddar nad oedd torri ei gyflog yn opsiwn iddo oherwydd ei ymrwymiad i’r elusen mae’n ei chyd-redeg gydag Unicef yn Sierra Leone.
“Gallwn i ddim cymryd gostyngiad cyflog – dyw hynny ddim yn bosib,” meddai, “Mae gen i 13 o blant draw [yn Sierra Leone] dw i’n talu i’w cadw.”
Dywed ei fod wedi rhoi cannoedd o filoedd o bunnoedd o’i arian ei hun i mewn i’r sefydliad elusennol – Craig Bellamy Foundation – ers ei ddechreuad yn 2008.
Mae ei elusen yn ceisio trawsnewid bywydau nifer o fechgyn ifanc y wlad yng ngorllewin Africa; gwlad sydd wedi dioddef yn fawr o dlodi a newyn yn sgil rhyfel cartref barhaodd am 11 blynedd.
Mae Bellamy wedi helpu i sefydlu academi bêl-droed cyntaf y wlad, a rhwydwaith o gynghreiriau pêl-droed ieuenctid sy’n cael eu cefnogi a’u rhedeg ynghyd â nifer o brosiectau addysgiadol Unicef.
Yr wythnos hon mae Bellamy wedi caniatáu i dri o fechgyn ifanc sy’n gynnyrch yr academi bêl-droed yn Sierra Leone aros yn ei gartref tra maen nhw’n cael cyfle i chwarae pêl-droed yn y wlad hon.
Mae Bellamy yn mynnu ei fod yn benderfynol o barhau gyda’i waith elusennol, ac mae hynny’n un o’r rhesymau pam nad yw’n bwriadu gadael Man City os nad ydyn nhw’n fodlon talu blwyddyn olaf ei gytundeb er mwyn iddo gael gadael.
Chwarae gyda’r ieuenctid
O ganlyniad, mae Bellamy wedi cael ei orfodi i ymarfer a chwarae gemau cyfeillgar gydag ieuenctid y clwb. Mae adroddiadau’n honni ei fod wedi bod yn parhau i weithio ac ymarfer yn galed, ac mae wedi cyfrannu gyda nifer o goliau i’r tîm iau.
Ond mae nifer o bobl eraill, yn cynnwys rheolwr tîm Cymru, yn credu y dylai Bellamy fod yn cael y cyfle i chwarae pêl-droed ar y lefel uchaf.
“Dw i’n disgwyl i’w sefyllfa gael ei datrys un ffordd neu’r llall, oherwydd mae ganddo ormod i’w gynnig,” meddai Gary Speed, “Mae’n chwaraewr rhy dda i beidio cael chwarae yn yr Uwch Gynghrair.
“Ef oedd un o chwaraewyr gorau Man City yn ei dymor diwethaf gyda hwy. Os oedd o ddim yn sgorio, yna mi oedd o’n creu cyfleoedd i Carlos Tevez.
“Dw i ddim yn meddwl ei bod yn amhosib y gall Craig aros gyda Man City, ond os nad yw’n aros, yna fe fydd nifer o glybiau eraill yn awyddus iawn i’w gael.”
Gohebydd: Guto Dafydd