Mae gobeithion Matthew Rees o gael chwarae yng Nghwpan y Byd o fewn trwch blewyn i gael eu chwalu.

Mae’n edrych yn debygol y bydd rhaid i’r bachwr – capten Cymru – gael llawdriniaeth ar yr anaf ar ei wddf cyn gynted â phosib.

Ond mae hynny’n codi amheuon mawr am ei allu i wella mewn pryd i gael ei bigo yng ngharfan derfynol Cymru i deithio i Seland Newydd ar gyfer Cwpan y Byd yn yr Hydref.

Roedd Warren Gatland wedi gobeithio y gallai’r llawdriniaeth aros tan wedi’r gystadleuaeth, ond mae’n ymddangos nad yw’r therapi a’r pigiadau mae Rees wedi bod yn eu derbyn wedi gwneud digon i lethu’r boen yn ei wddf.

Credir fod poen Rees yn deillio o broblem gyda disg yn ei gefn, a dyw Gatland ddim i’w weld yn orobeithiol y bydd Rees yn gallu gwella mewn pryd.

“Mae’n edrych fel y bydd rhaid iddo gael llawdriniaeth nawr yn hytrach na hwyrach ymlaen,” meddai Gatland wrth y BBC.

“Mae o wedi bod yn cael  pigiadau, ond mae dal mewn lot o boen. Bydd rhaid i ni eistedd i lawr gydag ef i gael sgwrs am y peth,” ychwanegodd.

Y gobaith oedd y gallai Rees fod yn barod ar gyfer gêm agoriadol grŵp Cymru yn erbyn De Affrica ar Fedi’r 11eg, ond mae’n bosib iawn erbyn hyn na chaiff Rees gyfle i chwarae yn y bencampwriaeth o gwbl.

Rheng flaen

Pan fydd pawb yn iach, mae gan Gymru reng flaen sydd ymysg y gorau yn y byd, gyda Rees, Gethin Jenkins ac Adam Jones oll yn ddewisiadau cyntaf ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 2009.

Ond mae amheuon am ffitrwydd pob un ohonyn nhw ar hyn o bryd gyda phrin fis i fynd nes bod Cwpan y Byd yn cychwyn.

Mae bys troed Adam Jones wedi gwella, ond mae’r hyfforddwyr wedi dewis peidio â’i chwarae yn yr ornest yn erbyn Lloegr yfory. Dyw Jenkins heb chwarae i’w wlad ers mis Ionawr oherwydd anafiadau i fys troed a chroth ei goes, a nawr mae gobeithion Rees i’w gweld yn dila.

Bydd colli Rees yn ergyd enfawr i Gatland a Chymru wrth iddyn nhw baratoi i gystadlu yn un o’r grwpiau caletaf yn y twrnamaint – gyda De Affrica, Samoa, Fiji a Namibia oll yn yr un grŵp â’r Cymry.

Os na fydd Rees yn gallu chwarae, bydd rhaid i Gatland ddewis rhwng Richard Hibbard, Huw Bennett, Lloyd Burns a Ken Owens pan fydd yn gwneud ei ddewis terfynol wythnos i yfory, ddeuddydd wedi’r gêm gyfeillgar olaf yn erbyn yr Ariannin.

Bydd dyletswyddau’r capten yn debygol o gael eu pasio i Sam Warburton yn absenoldeb Rees, wedi i’r blaen asgellwr arwain y tîm allan yn eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Lloegr a’r Barbariaid.