Y cefnogwr pêl-droed bytholwyrdd, Tommie Collins sy’n bwrw’i fol am sefyllfa ddigalon ddiweddaraf pêl-droed Cymru.
Yn Rio de Janeiro nos Sadwrn – mae’r enwau’n cael eu tynnu o’r het ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 … ac mae Cymru ar waelod y domen.
Na, tydan ni ddim hyd yn oed ym mhot 5 – mae’n tîm rhyngwladol ni’n swyddogol yn waeth nag Ynysoedd y Faroe, sef un o’r timau gwaethaf yn Ewrop deng mlynedd yn ôl
Beth aeth o’i le i Gymru? Mae pawb yn cofio tîm Sparky Hughes yn cael y rhediad gwych yna yng ngemau rhagbrofol ymgyrch 2004. Dechreuodd y rhediad gyda’r gêm fythgofiadwy honno’n Helsinki ym mis Medi 2002, ond eto, gorffen yn siomedig oedd ein hanes trwy golli yn erbyn Rwsia ar Stadiwm y Mileniwm yn 2003.
Yn 1993 roedd Cymru mor uchel â safle 27 yn y byd – nawr rydan ni’n 112.
Be sy’n fy synnu fi ydy bod Norwy ym mhot 1! Ewch yn ôl ddim ond tair blynedd ac roeddem ni’n eu curo nhw o 3-0 ar y Cae Ras yn Wrecsam.
Felly nos Sadwrn – fe fydd cefnogwyr brwd Cymru yn aros i weld pwy gawn ni, wrth gwrs nawn byth ennill lle yn y ffeinals, ond o leiaf bydd ddim rhaid i ni fynd i San Marino eto.