Brendan Rodgers
Mae Abertawe yn gobeithio y bydd Nathan Dyer yn ymestyn ei gytundeb gyda’r Elyrch.

Mae gan y chwaraewr canol cae, 23 oed, flwyddyn yn weddill ar ei gontract presennol, ac mae adroddiadau y gallai benderfynu gadael ar ddiwedd ei gytundeb fel y gwnaeth Dorus de Vries a Darren Pratley.

Ond mae Brendan Rodgers wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda’r chwaraewr ac mae’n gobeithio y bydd Nathan, a gafodd ei enwebu’n chwaraewr y tymor gan gefnogwyr tymor 2010-11, yn cytuno i aros gydag Abertawe.

“Wedi i ni fod yn siarad, dwi’n gwybod fod Nathan yn teimlo mai’r tymor diwethaf oedd uchafbwynt ei yrfa hyd yn hyn,” meddai Rodgers wrth y South Wales Evening Post.

“Mae yn ymwybodol hefyd o’r agweddau o’i gem y byddai yn gallu gwella arnyn nhw.

“Ond mae yn dal i fod yn ifanc iawn, a dwi’n credu ei fod o yn y lle perffaith i ddatblygu. Gobeithio y gallwn ni ddod i gytundeb oherwydd dydyn ni’n sicr ddim eisiau ei golli.”

Mae Abertawe hefyd yn obeithiol y gall y ffaith eu bod nhw wedi ennill dyrchafiad i’r Uwch-Gynghrair fod yn ysgogiad i nifer o chwaraewyr eraill – megis Garry Monk, Joe Allen a Jazz Richards – i barhau â’r clwb am rai blynyddoedd eto.

Serch hynny, mae Cadeirydd CPD Abertawe, Huw Jenkins, wedi gorfod gwadu honiadau sy’n dweud fod Abertawe wedi bod yn mynd ar ôl yr un o’r ddau ymosodwr, Mariano Pavone neu James McFadden.

Mae adroddiadau fod Blackburn, Lerpwl a Fulham ar ôl Pavone hefyd, ac mae McFadden, sy’n chwaraewr rhyngwladol i’r Alban, wedi cwblhau ei gytundeb gyda Dinas Birmingham ac felly’n rhydd i symud.

Gôl-geidwad

Mae’n ymddangos fod y clwb wedi methu eu cyfle i arwyddo’r golwr David Stockdale. Gwrthodwyd cynnig o £2 miliwn amdano, ond roeddynt yn obeithiol o gytuno ar gyfnod ar fenthyg.

Roedd Fulham yn benderfynol y byddai rhaid cael opsiwn i Stockdale ddychwelyd o fewn 24 awr petai ei angen, ac felly mae’n debygol y bydd yn ymuno gyda chlwb o’r bencampwriaeth yn lle.

Yn ôl Gazzetta dello Sport (papur newydd Eidaleg) mae Abertawe wedi gwneud cynnig ar gyfer gôl-geidwad Palermo, Rubinho, sydd o Frasil.

Mae Fulham, Stoke a West Ham wedi bod yn awyddus i’w arwyddo yn y gorffennol.

Routledge

Mae’n bur debyg hefyd fod yr Elyrch wedi methu gyda’u hymdrechion i ddenu Wayne Routledge i’r Stadiwm Liberty y tymor nesaf.

Derbyniodd Newcastle United eu cynnig o £1.7 miliwn amdano, ond mae’n ymweld na fu hi’n bosib cytuno ar delerau personol ar ei gyfer. Mae nifer o glybiau eraill yn parhau i ddangos diddordeb ynddo.