Stadiwm Abertawe
Mae Neil Taylor, amddiffynnwr Abertawe, wedi penderfynu arwyddo cytundeb i aros gyda’r Elyrch am bedair blynedd arall.
Bydd cyhoeddiad y cytundeb newydd hwn yn cau pen y mwdwl ar wythnos lle bu ansicrwydd a dyfalu di-ri’ am ddyfodol y chwaraewr ifanc, 22 oed.
Roedd adroddiadau’n honni fod Newcastle United wedi cynnig £1 miliwn am wasanaeth Taylor. Ond yna fe fu dadlau dros fanylion ei gytundeb gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe.
Roedd Newcastle yn credu fod y cynnig hwnnw’n caniatáu iddyn nhw arwyddo’r Cymro. Ond roedd Abertawe’n honni mai siarad gyda’r chwaraewr oedd eu hunig hawl.
O ganlyniad, roedd Taylor wedi gofyn i’r Uwch Gynghrair weithredu fel awdurdod i gymodi rhwng y ddau glwb er mwyn datrys y sefyllfa.
“Hwn oedd y mis caletaf o fy mywyd,” meddai Neil Taylor wrth wefan Abertawe.
“Roedd cymaint o bethau’n cael eu dweud, a chymaint o gelwyddau yn y Wasg, roedd yn anodd delio gydag ef.
“Yn amlwg, roeddwn i’n falch fod clwb mor fawr â Newcastle wedi dangos diddordeb ynof, ac felly mi fues i’n siarad gyda nhw. Dw i’n meddwl y byddai lot o chwaraewyr wedi gwneud hynny.”
Dyma’r tro cyntaf i Taylor ddweud gair am ei sefyllfa ddiweddar. Roedd cytundeb yn ei rwystro rhag datgelu unrhyw beth nes bod y trafod wedi dod i ben a chytundeb wedi’i arwyddo.
“Os fyddwn i wir wedi bod eisiau mynd, yna mi fyddwn i wedi gofyn i gael gadael, ond mae gen i bopeth dw i angen yma yn Abertawe,” ychwanegodd.
“Dyma’r clwb dw i eisiau chwarae iddo, ac felly roedd y penderfyniad i arwyddo cytundeb newydd yn un hawdd.”
Cyhoeddodd Brendan Rodgers ei fod yn ymhyfrydu yng nghael cadw Taylor.
“Mae hwn yn glwb gwych i chwaraewyr ifanc ddatblygu. Does dim amheuaeth y bydd Neil yn chwaraewr da iawn. Mae’n bwysig i ni ac mae’n bwysig i Gymru. Mae’n caru’r clwb, ac mae o eisiau chwarae yma,” meddai rheolwr yr Elyrch.