Geraint Thomas
Bu Geraint Thomas yn arwain am y rhan fwyaf o ddeuddegfed cymal y Tour de France ddoe – 211km o Cugnaux i Luz Ardiden.
Cwympodd oddi ar ei feic ddwywaith cyn adennill tir i aros ar y blaen, ond fe flinodd tua diwedd y ras wedi ymdrech ddewr. Gorffennodd yn 36ain.
Caiff Thomas ei ystyried yn un o feicwyr blaenllaw tîm Sky yn absenoldeb Bradley Wiggins, ac yn sicr fe ddangosodd rinweddau arweinydd ddoe gyda pherfformiad cryf ac annisgwyl ar gymal mynyddig.
Er iddo lithro yn ôl tua diwedd y cymal, ac er iddo golli rhagor o amser yn y ras, mae wedi gwella’i safle gan symud o 31ain i 25ain yn y daith gyfan – 10 munud a 21 eiliad y tu ôl i Thomas Voeckler, sy’n dal i arwain.
Mae’n parhau i gystadlu’n gryf hefyd am grys gwyn y beiciwr ifanc gorau. Mae’n 6ed yn y ras honno, bedair munud a 31 eiliad y tu ôl i Arnold Jeannson o Ffrainc.
Colli cyfle ac arian
Mae’n ymddangos na ddywedodd neb wrth Geraint Thomas fod yna wobr gwerth €5,000 i’r dyn cyntaf i groesi’r llinell ar gopa’r Col du Tourmalet. Pan welodd o Jeremy Roy yn gwibio heibio iddo gydag ychydig fetrau’n weddill, ni ymatebodd y Cymro.
“Pum mil o Euros? Does dim rhyfedd ei fod o wedi mynd amdani. Fe all brynu lot o gwrw gyda phres fel yna,” meddai Geraint Thomas yn ei gyfweliad gydag ITV4 wedi’r ras.
Y mwyaf ymosodol
Ond ni adawodd Thomas yn waglaw wedi ei berfformiad clodwiw. Fe gafodd le ar y podiwm wrth dderbyn y wobr a roddir i feiciwr mwyaf ymosodol y dydd. Bu Thomas yn rhan o grŵp o chwech dorrodd o’r maes yn gynnar yn y ras, ac fe arhosodd ar y blaen nes saith kilomedr o’r diwedd.
Mae’n debyg mai ei ddyfalbarhad wedi anffawd oedd un o’r rhesymau iddo ennill y wobr hon. Wrth gyrraedd brig yr esgyniad cyntaf, fe lithrodd ei olwyn ôl, gan achosi iddo golli rheolaeth a chael codwm ar y gwair ar ymyl y ffordd.
Neidiodd yn ôl ar ei feic, cyn llithro unwaith eto o fewn ychydig droadau a phrin osgoi taro car wedi’i barcio.
“Nes i just llithro. Dwi’n siŵr fod yna rhywbeth ar y ffordd. Ond mi oedd yr ail un yn wirion. Rhaid bod gen i faw ar y teiars ac fethais I arafu ddigon sydyn.”
Dywed am ei berfformiad: “Dwi braidd yn stiff ac yn sore, ond roedd o’n wych cael bod ar y blaen ac yn rasio ar ddiwrnod fel heddiw.” Ychwanegodd, “Roeddwn i just eisiau rhoi’r ymdrech i mewn a chael rasio, ac mi wnes i hynny. Gyda 7km i fynd, o’n i’n meddwl y byddai hi’n agos, ond roedd dal tipyn i fynd.”
Y pencampwr Olympaidd, Samuel Sanchez, enillodd y cymal wedi uchafbwynt cyffrous i’r cymal mynyddig cyntaf eleni.