Mae Gareth Bale eisiau chwarae yn yr Olympics
Ynghanol y ffrae dros roi tîm Prydeinig i gystadlu yn y Gemau Olympaidd y flwyddyn nesa’, mae rheolwr Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd wedi annog Cymry i brynu tocynnau ar gyfer y gemau pêl-droed Olympaidd sydd i’w cynnal yng Nghaerdydd.
Dyma’r ail gyfle i brynu tocynnau ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain wedi dechrau ers chwech y bore yma, ac fe fydd yn gorffen am chwech yr hwyr ymhen pythefnos.
Mae 2.3 miliwn o docynnau’n weddill gyda 1.7 miliwn ohonynt ar gyfer y cystadlaethau pêl-droed.
Bydd Stadiwm y Mileniwm yn cynnal 11 gêm ar draws cystadlaethau’r dynion a menywod, gan gynnwys un o gemau wyth olaf y dynion yn ogystal â’r gêm am y fedal efydd.
“Rwy’n annog cefnogwyr chwaraeon i gymryd mantais o’r ail gyfle i sicrhau tocynnau ar gyfer gemau pêl-droed o’r safon uchaf a bod yn rhan o Gemau Llundain 2012 yng Nghymru,” meddai Gerry Toms.
“Mae Stadiwm y Mileniwm yn ddewis ardderchog i gefnogwyr cael bod yn rhan o’r sioe chwaraeon fwyaf y byd.”
Mae gwefan Gemau Llundain 2012 sy’n cofrestru pobl ar gyfer tocynnau i’r Olympics, wedi cael problemau’r bore yma oherwydd y galw mawr am docynnau.