Mae tîm saith bob ochr Cymru wedi gwneud pump newid i’r garfan ar gyfer eu cystadleuaeth ddiweddaraf ym mhrifddinas Rwsia. 

Roedd Cymru wedi teithio i Ffrainc y penwythnos diwethaf ar gyfer cymal cyntaf cystadlaethau saith bob ochr yr haf. 

 Enillon nhw bedair o’u saith gêm gyda buddugoliaethau yn erbyn Rwsia, Moldova, Yr Eidal a’r Iseldiroedd. 

Mae Gareth Williams, sydd wedi cymryd yr awenau hyfforddi ar gyfer cystadlaethau’r haf gan Paul John, wedi dweud bod y tîm eisoes yn elwa o’r profiad. 

“Roedd y gystadleuaeth penwythnos diwethaf yn foddhaol wrth i ni roi’r cyfle i nifer o chwaraewyr sydd wedi bod yn ymarfer gyda ni dros y cwpl o fisoedd olaf,” meddai Gareth Williams. 

“Oni bai am gwpl o ddigwyddiadau allweddol mewn gêmau pwysig fe allen ni fod wedi cyrraedd y rownd gyn-derfynol.

“Mae’r gêmau yma’n rhoi’r cyfle i’r chwaraewyr ifanc gael y profiad o’r lefel sydd angen iddynt gyrraedd yn gyson er mwyn symud ymlaen i’r lefel nesaf.”

Manylion y tîm

Mae Nic Cudd, Jake Randell a Rhodri Williams o’r Scarlets ynghyd â Richard Smith o Gaerdydd a Steffan Andrews Donmawr wedi cael eu hychwanegu at y garfan. 

Mi fyddan nhw’n cymryd llefydd Will Jones, Rory Watts Jones, Steve Taylor, Sam Lewis ac Elliot Frewen.

Y garfan

Owen Williams (Pontypridd), Calum Thomas (Pontypridd), Nic Cudd (Scarlets), Richard Smith (Caerdydd), Rhodri Williams (Scarlets) Justin James (Llanelli), Lee Williams (Scarlets), Warren Davies (Tonmawr), Will Price (Aberafan), Steffan Andrews (Tonmawr), Jake Randell (Scarlets), Luke Williams (dim clwb).