Mi gurodd Morgannwg y Sussex Sharks o drwch blewyn neithiwr, wedi i’r gêm ugain pelawd fynd lawr i’r bêl olaf yng Nghaerdydd.
Roedd y Dreigiau wedi gosod targed o 138 i’r ymwelwyr ar ôl i Alviro Petersen sgorio 38 rhediad, Mark Cosgrove (34) a Jim Allenby (30).
Wedi dechrau clodwiw roedd Sussex wedi sgorio 78 oddi ar 11 pelawd ac roedden nhw’n medru blasu’r fuddugoliaeth.
Ond boddi wrth y lan oedd hanes y tîm o Loegr, wrth i Forgannwg daro ‘nôl gyda i gymryd pedwar wiced allweddol – gyda Simon Jones yn cipio wiced Ben Brown.
Roedd gan Sussex chwe phelawd i sgorio 45 rhediad, ond fe rwystrodd bowlio Jim Allenby a Graham Wagg rhediadau’r Sharks ar wiced araf yn y Stadiwm Swalec.
Roedd Sussex angen pedwar rhediad ar y bêl olaf, ond fe rwystrodd capten Morgannwg Alviro Petersen y bêl rhag cyrraedd y ffin wrth i’r Sharks orffen eu batiad 135-4.
Mae’r fuddugoliaeth i Forgannwg yn cau’r bwlch rhyngddyn nhw a’r Sussex Sharks ar frig tabl y gystadleuaeth ugain pelawd.