Geraint Thomas
Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi’i enwi yn y tîm Sky fydd yn cystadlu yn y Tour de France eleni.

Fe gafodd y tîm ei gyhoeddi bore ma, ac mae Thomas yn ymuno â dau Brydeiniwr arall yn y tîm – Bradley Wiggins, sy’n un o’r ffefrynnau a Ben Swift sy’n gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn Le Tour.

Does dim syndod bod y Cymro wedi ei ddewis yn y tîm ar ôl dechrau da i’r tymor.

Enillodd ras Taith Bafaria ar ddiwedd mis Mai, gan hefyd roi cyfraniad tîm gwerthfawr iawn wrth i Wiggins gipio teitl Critérium du Dauphine.

Blwyddyn dda hyd yma

O’r hyn mae Williams wedi dweud ar ei flog swyddogol, mae’n edrych ymlaen yn eiddgar i’r ras.

“Mae wedi bod yn flwyddyn dda i mi hyd yn hyn, ac mae popeth yn gerio fyny at y mis nesaf” maeddai’r Cymro.

“Ar nodyn personol dwi’n teimlo fy mod wedi camu fyny ers llynedd a gobeithio y gall hynny barhau mewn i fis Gorffennaf.”

“Dwi’n falch iawn i fod yn cymryd rhan yn ras fwyaf y byd efo un o’m ffrindiau gorau Swiffty…gyda’r bwriad o ennill lle ar y podiwm ym Mharis i Brydeiniwr arall, Bradley Wiggins.”

Cyn hynny, fe fydd Williams yn amddiffyn ei goron Brydeinig yn Northumberland ddydd Sul yma.

Tîm Tour de France llawn Sky:

Edvald Boasson Hagen

Juan Antonio Flecha

Simon Gerrans

Christian Knees

Ben Swift

Geraint Thomas

Rigoberto Urán

Bradley Wiggins

Xabier Zandio