Robbie Earnshaw
Mae Robert Earnshaw wedi awgrymu ei fod yn awyddus i symud yn ôl i’w glwb cyntaf, Caerdydd.

Mae cytundeb yr ymosodwr rhyngwladol gyda’i glwb Nottingham Forest, wedi dod i ben, felly’n mae’n rhydd i adael y clwb. Mae Forest wedi cynnig cytundeb newydd iddo, ond gyda thelerau cyflog llawer is yn ôl pob tebyg.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae llawer o ddyfalu wedi bod ynglŷn â’i ddyfodol, gydag awgrymiadau cryf y byddai’n ymuno â Crystal Palace.

Bydd sylwadau Earnshaw wrth siarad â Wales Online heddiw yn codi gobeithion cefnogwyr Caerdydd sydd ar y cyfan yn ystyried yr ymosodwr yn un o arwyr mawr y clwb.

“Mae gen i lawer o atgofion ffantastig o Gaerdydd ac unwaith fyddai nôl o’m gwyliau fe fyddai’n eistedd lawr gyda fy asiant i weld beth ydy’r cam gorau i mi a’m teulu, ond ni fuaswn yn diystyru ailymuno â Chaerdydd.” Meddai Earnshaw sydd ar wyliau yn y Caribî ar hyn o bryd.

“Rwy’n ymwybodol o’r sibrydion nôl adref yn fy nghysylltu â Chaerdydd ac mae hynny’n braf.”

“Ond ar hyn o bryd, dyna’r cyfan ydyn nhw, ond unwaith y byddai’n siarad â’m hasiant dwi’n siŵr y bydd pethau’n dechrau symud yn gyflym un ffordd neu’r llall” ychwanegodd yr ymosodwr 30 oed.