Mae Abertawe wedi cadarnhau bod Newcastle Utd wedi gwneud cynnig am eu hamddiffynnwr Neil Taylor.
Ymunodd y Cymro ifanc â’r Elyrch oddi wrth Wrecsam y llynedd ac fe aeth ei yn flaen i chwarae 30 o weithiau wrth i’r clwb sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.
Methodd rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth oherwydd gwaharddiad yn dilyn carden goch yng nghymal cyntaf y rownd cyn derfynol yn erbyn Nottingham Forest.
“Mae Newcastle wedi gwneud cynnig am Neil. Ond ar hyn o bryd nid yw’r cynnig wedi cael ei dderbyn na chwaith ei wrthod,” meddai cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins.
“R’yn ni wedi cael nifer o ymholiadau gan wahanol glybiau sydd eisiau Neil. Fe fyddwn ni’n trafod hyn gyda Neil pan fydd yn dychwelyd o’i wyliau’r wythnos nesaf.
“Mae Neil yn chwaraewr yr oedden ni wedi ei arwyddo oddi ar Wrecsam gyda’r bwriad o’i ddatblygu am flynyddoedd i ddod. Y peth olaf sydd ar ein meddwl yw gwerthu unrhyw un dros yr haf.”
Roedd Neil Taylor wedi treulio chwe blynedd gyda Man City cyn iddo adael yn 15 oed oherwydd anaf.
Er gwaethaf cynigion gan glybiau eraill ar y lefel uchaf, fe ymunodd â Wrecsam ac ymddangos dros 80 o weithiau dros y clwb.
Chwaraeodd i dîm dan 21 Cymru cyn ennill ei gap cyntaf i’r tîm llawn yn erbyn Croatia ym mis Mai 2010.
Talodd Abertawe £150,000 i Wrecsam am Neil Taylor a phe baen ymuno â chlwb arall fe fyddai’r Dreigiau yn cael 10% o’r swm.