Mae prif weithredwr Caerdydd, Gethin Jenkins, wedi dweud y gallai’r Adar Glas benodi rheolwr newydd erbyn yr wythnos nesaf.
Dywedodd Gethin Jenkins bod sawl un wedi dangos diddordeb mewn rheoli’r clwb wedi ac nad oedd hynny’n syndod wrth ystyried statws y clwb.
“Dros yr wythnos olaf r’yn ni wedi cynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr y rhai hynny sydd â diddordeb ac wedi ymgynghori gydag amryw o arbenigwyr pêl droed er mwyn cael eu barn ar yr ymgeiswyr,” meddai Gethin Jenkins.
“Fe fyddwn ni nawr yn cymryd y camau nesaf er mwyn penodi rheolwr yr ydyn ni’n teimlo y gallai symud y clwb yn ei flaen.
“Fe fydd ein gwaith yn parhau’r wythnos yma ac fe fydd cyhoeddiad llawn am benodiad yn cael ei wneud cyn hir, o bosib yr wythnos nesaf.
“Rwy’n siŵr bod cefnogwyr Caerdydd yn awyddus i glywed cyhoeddiad cyn gynted â phosib, ond oherwydd pwysigrwydd y penderfyniad, mae’n angenrheidiol ein bod ni yn ystyried yr holl ffactorau er lles y clwb.”
Dywedodd prif weithredwr Caerdydd y byddai’n amhriodol i drafod sïon na chadarnhau a ydyn nhw wedi cyfarfod gydag unrhyw ymgeiswyr penodol.