Mae Nev Powell wedi ei enwi’n rheolwr y flwyddyn am yr ail dymor yn olynol yn noson wobrwyo Uwch Gynghrair Cymru.
Daw hyn ar ôl i Powell arwain Bangor i bencampwriaeth yr adran am y tro cyntaf ers 1995.
Fe enillodd Bangor y wobr chwarae teg hefyd am ymddygiad eu chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr.
Mae cadeirydd Bangor, Dilwyn Jones, wedi llongyfarch Nev Powell a phawb yn y clwb am eu cyfraniad i’w tymor llwyddiannus.
“Rwyf wrth fy modd gyda datblygiad Bangor y tymor hwn,” meddai Dilyn Jones.
“Llongyfarchiadau i Neville, ei dîm hyfforddi a’r chwaraewyr, yn ogystal â’r cyfarwyddwyr, sy’n sicrhau bod llwyddiant y clwb oddi ar y cae yn cyd-fynd gyda’n llwyddiant ar y cae.
“Bydd y rhai hynny oedd yn bresennol ar gyfer gêm olaf y tymor yn erbyn y Seintiau Newydd byth yn anghofio’r achlysur.
“R’yn ni’n mwynhau’r cyfnod yma ond r’yn ni eisoes wedi dechrau cynllunio ar gyfer y tymor newydd ac mae pawb yn edrych ymlaen at ein hymgyrch gyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr.”
Chwaraewr y Flwyddyn
Mae ymosodwr Llanelli, Rhys Griffiths, wedi ei enwi’n chwaraewr y flwyddyn gan reolwyr yr adran.
Fe gurodd Griffiths Michael Johnston o Fangor a Craig Jones o’r Seintiau Newydd er mwyn cipio’r wobr.
Mae Griffiths hefyd wedi ennill gwobr yr esgid aur am y chweched tymor yn olynol ar ôl gorffen y tymor yn brif sgoriwr yr adran.
Fe sgoriodd Rhys Griffiths 25 gôl mewn 28 ymddangosiad i Lanelli’r tymor hwn.
Fe gafodd Chris Jones o Gastell-nedd hefyd ei enwi’n chwaraewr ifanc y flwyddyn yn y noson wobrwyo.